Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, yw Merthyr Dyfan.[1][2] Fe'i lleolir ar gwr gogleddol Y Barri ar bwys ffordd yr A4050, tua 6 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd.

Merthyr Dyfan
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4206°N 3.2708°W Edit this on Wikidata
Cod OSST117698 Edit this on Wikidata
Cod postCF62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Merthyr", gweler Merthyr (gwahaniaethu).

Enwir y pentref ar ôl Sant Dyfan a cheir eglwys a gysegrir iddo yn y pentref. Gall y gair merthyr yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)" a dyna a geir yma; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, a Merthyr Mawr, a cheir yr enwau cytras merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3]

Honnir mai dyma un o'r canolfannau Cristnogol cynharaf yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cafodd ei seyfydlu yn 180 OC pan anfonwyd Dyfan a Ffagan i Gymru gan y Pab Eleutherius. Cysylltir yr eglwys gyda Sant Teilo hefyd, sy'n nawddsant y plwyf gyda Dyfan. Cafodd ei difrodi yn sylweddol yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd a'i hadfer yn y 19g.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 16 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 16 Mehefin 2023
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.
  4. "MerthyrDyfan.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-28. Cyrchwyd 2009-09-26.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.