Mervyn Johns

actor a aned yn 1899

Roedd David Mervyn Johns (18 Chwefror 1899 - 6 Medi 1992) yn actor cymeriad theatr, ffilm a theledu nodweddiadol Gymreig a ddaeth yn seren ffilmiau Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r cyfnod wedi'r rhyfel. Roedd yn un o brif gynheiliaid ffilmiau Ealing Studios.

Mervyn Johns
Johns yn The Halfway House (1944)
Ganwyd18 Chwefror 1899 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1992 Edit this on Wikidata
Northwood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
TadWilliam Johns Edit this on Wikidata
MamMargaret Anne Samuel Edit this on Wikidata
PriodDiana Churchill, Alyce Steele-Wareham Edit this on Wikidata
PlantGlynis Johns Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Johns ym Mhenfro yn fab i William Johns, casglwr treth y tlodion a Margaret Ann, ei wraig.[1] Roedd wedi bwriadu hyfforddi fel meddyg ond torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar draws ei gynlluniau. Bu'n gwasanaethu fel aelod o'r Corfflu Hedfan Brenhinol (rhagflaenydd yr Awyrlu Brenhinol). Ar ôl y rhyfel aeth I RADA i hyfforddi'n actor.[2]

Roedd Johns yn frawd i'r academydd o Rhydychen, Howard Johns, a ddaeth yn rheithor dau o blwyfi sir Swydd Rydychen, ac yn ewythr i'r barnwr John Geoffrey Jones.

Gyrfa golygu

Dechreuodd Mervyn Johns ei yrfa yn y theatr yn y 1920au, cyn gwneud ei ffilm gyntaf ym 1934.[3] Ymhlith dwsinau o'i rolau ffilm oedd warden yr eglwys yn Went the Day Well? (1942), y pensaer ofnys Walter Craig yn y ffilm ddirgelwch Dead of Night (1945) a Bob Cratchit yn Scrooge (1951) gydag Alastair Sims. Gwnaeth Johns lawer o ymddangosiadau teledu hefyd, mewn cyfresi fel The Avengers, Danger Man a Dixon of Dock Green. Roedd yn adnabyddus am chware dynion bach bach eiddil, ofnus, difyr ond yn aml deimladwy mewn dros 100 o ffilmiau a rhaglenni teledu..[2]

Teulu golygu

Roedd Johns ddwywaith yn briod. Ei wraig gyntaf oedd y pianydd cyngerdd Alys Steele. Bu iddynt un ferch, yr actores Glynis Johns,[4] a aned yn Ne Affrica, â ymddangos gyda'i thad yn y ffilmiau The Halfway House (1944) a The Sundowners (1960). Ar ôl marwolaeth Alys ym 1970, priododd Johns yr actores Diana Churchill ym 1976.

Marwolaeth golygu

Bu Johns farw yn Northwood, Middlesex yn 93 mlwydd oed.

Ffilmograffi golygu

  • Lady in Danger (1934) yn chware rhan gohebydd
  • The Guv'nor (1935) yn chware rhan rheolwr banc (heb gredyd)
  • Foreign Affaires (1935) yn chware rhan cyfieithydd llys
  • Pot Luck (1936) yn chware rhan gwyliwr nos (heb gredyd)
  • In the Soup (1936) yn chware rhan Meakin (heb gredyd)
  • Everything Is Thunder (1936) yn chware rhan Karl (heb gredyd)
  • Dishonour Bright (1936) yn chware rhan gwerthwr cardiau post (heb gredyd)
  • Song of the Forge (1937) (heb gredyd)
  • Storm in a Teacup (1937) yn chware rhan beili llys (heb gredyd)
  • Night Ride (1937) yn chware rhan glöwr (heb gredyd)
  • The Last Curtain (1937) yn chware rhan Hemp
  • Almost a Gentleman (1938) yn chware rhan Percival Clicker
  • Jamaica Inn (1939) yn chware rhan Thomas yng ngiang Syr Humphrey
  • The Midas Touch (1940) (heb gredyd)
  • Convoy (1940) yn chware rhan His Mate
  • Girl in the News (1940) yn chware rhan James Fetherwood
  • Saloon Bar (1940) yn chware rhan Wickers
  • The Next of Kin (1942) yn chware rhan No 23: Mr Davis
  • The Foreman Went to France (1942) yn chware rhan Swyddog ffiniau (heb gredyd)
  • Went the Day Well? (1942) yn chware rhan Charlie Sims
  • The Bells Go Down (1943) yn chware rhan Sam
  • My Learned Friend (1943) yn chware rhan Grimshaw
  • San Demetrio London (1943) yn chware rhan Greaser John Boyle
  • The Halfway House (1944) yn chware rhan Rhys
  • Twilight Hour (1945) yn chware rhan Major John Roberts
  • Dead of Night (1945) yn chware rhan Walter Craig
  • Pink String and Sealing Wax (1945) yn chware rhan Mr. Sutton
  • They Knew Mr. Knight (1946) yn chware rhan Tom Blake
  • The Captive Heart (1946) yn chware rhan Pte. Evans
  • Captain Boycott (1947) yn chware rhan Watty Connell
  • Easy Money (1948) yn chware rhan Herbert Atkins
  • Counterblast (1948) yn chware rhan Dr. Bruckner the Beast of Ravensbruck
  • Quartet (1948) yn chware rhan Samuel Sunbury
  • Edward, My Son (1949) yn chware rhan Harry Sempkin
  • Helter Skelter (1949) yn chware rhan Ernest Bennett
  • Diamond City (1949) yn chware rhan Hart
  • Tony Draws a Horse (1950) yn chware rhan Alfred Parsons
  • Scrooge (1951) yn chware rhan Bob Cratchit
  • The Magic Box (1951) yn chware rhan Goitz
  • The Tall Headlines (1952) yn chware rhan Uncle Ted
  • The Oracle (1953) yn chware rhan Tom Mitchum
  • Valley of Song (1953) yn chware rhan Parch Griffiths
  • The Master of Ballantrae (1953) yn chware rhan MacKellar
  • Romeo and Juliet (1954) yn chware rhan Ffreier Laurence
  • The Blue Peter (1955) yn chware rhan Captain Snow
  • 1984 (1956) yn chware rhan Jones
  • The Intimate Stranger (1956) yn chware rhan Ernest Chaple
  • Moby Dick (1956) yn chware rhan Peleg
  • Find the Lady (1956) yn chware rhan Hurst
  • The Counterfeit Plan (1957) yn chware rhan Louie Bernard
  • Doctor at Large (1957) yn chware rhan Smith
  • The Vicious Circle (1957) yn chware rhan Dr. George Kimber
  • The Surgeon's Knife (1957) yn chware rhan Mr. Waring
  • The Gypsy and the Gentleman (1958) yn chware rhan Brook
  • The Devil's Disciple (1959) yn chware rhan Parch Maindeck Parshotter
  • Danger List (1959) yn chware rhan Mr. Ellis
  • Once More, with Feeling! (1960) yn chware rhan Mr. Wilbur Jr.
  • Never Let Go (1960) yn chware rhan Alfie Barnes
  • The Sundowners (1960) yn chware rhan Jack Patchogue, maer Cawndilla
  • No Love for Johnnie (1961) yn chware rhan Charlie Young
  • The Rebel (1961) yn chware rhan Rheolwr galeri yn Llundain
  • Francis of Assisi (1961) yn chware rhan Y Brawd Juniper
  • The Day of the Triffids (1962) yn chware rhan Mr. Coker
  • 55 Days at Peking (1963) yn chware rhan Gweinidog
  • 80,000 Suspects (1963) yn chware rhan Buckridge
  • The Old Dark House (1963) yn chware rhan Potiphar Femm
  • The Victors (1963) yn chware rhan Dennis
  • A Jolly Bad Fellow (1964) yn chware rhan Willie Pugh-Smith
  • The Heroes of Telemark (1965) yn chware rhan Col. Wilkinson
  • Who Killed the Cat? (1966) yn chware rhan Henry Fawcett
  • The National Health (1973) yn chware rhan Rees
  • House of Mortal Sin (1976) yn chware rhan Y Tad Duggan

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1901 Pembre Sir Benfro. Cyfeirnod: RG13/ 5091; Ffolio: 62; Tudalen: 21
  2. 2.0 2.1 Independent 12 Medi 1992 Obituary: Mervyn Johns adalwyd 16 Chwefror 2019
  3. Mervyn Johns Archifwyd 2021-07-21 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Chwefror 2019
  4. Silverscreen -Mervyn Johns adalwyd 16 Chwefror 2019

Dolen allanol golygu

Mervyn Johns ar IMDb