Mesothelioma

math o ganser sy'n datblygu o'r haenen feinwe tenau sy'n cwmpasu llawer o'r organau mewnol a (elwir yn mesotheliwm)

Mae mesothelioma yn fath o ganser sy'n datblygu o'r haenen feinwe tenau sy'n cwmpasu llawer o'r organau mewnol (a elwir yn mesotheliwm).

Mesothelioma
Sgan CT o Mesothelioma ar yr ysgyfaint
Enghraifft o'r canlynolclefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathasbestos-related disease, cancr cellog, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
SymptomauGwichian wrth anadlu edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn eich brest, mae dwy haen denau o gelloedd sy’n leinio tu allan yr ysgyfaint a thu mewn y frest, o’r enw pliwra, neu bilen blewrol. Mae pob haen mor denau â chroen balŵn. Mae’r haen tu allanyn leinio tu mewn cawell yr asennau, ac mae’r haen tu mewn yn gorchuddio’r ysgyfaint. Mae’r lle rhwng y ddwy haen yn cael ei alw’n ofod plewrol ac fel arfer mae’n cynnwys ychydig bach o hylif. Mae’r hylif hwn yn iro’r ddau arwyneb ac yn gadael i’r ysgyfaint a wal y frest symud ac ehangu wrth i chi anadlu i mewn ac allan.

Mae mesothelioma yn fath o ganser sy’n dechrau tyfu yn y bilen blewrol. Yn llai aml, mae mesothelioma yn gallu effeithio leinin tebyg o gwmpas yr abdomen neu’r galon. Mae’r llyfryn hwn yn sôn am mesothelioma y frest, sy’n aml yn cael ei alw’n ‘mesothelioma plewrol anfalen‘. (malignant pleural). Fel arfer, dim ond un ochr o’r frest mae mesothelioma yn effeithio arni. Wrth i gelloedd canser y mesothelioma dyfu a lluosi, maent yn ffurfio clympiau sy’n cael eu galw’n diwmorau. Weithiau, efallai bydd un tiwmor mawr. Yn amlach, mae llawer o diwmorau bach wedi’u gwasgaru drwy eich pilen blewrol sy’n achosi i’r bilen dewhau.

Mathau o mesothelioma golygu

Mae tri gwahanol fath o mesothelioma, sy’n cael eu hadnabod drwy edrych ar gelloedd canser o dan ficrosgop.

  • Mesothelioma epithelaidd yw’r math mwyaf cyffredin. O dan ficrosgop, mae celloedd yn edrych fel siâp ciwb ac maen nhw’n eithaf tebyg. Mae’r math hwn o mesothelioma yn tyfu’n arafach na’r lleill, felly efallai bydd yn ymateb yn well i driniaeth.
  • Mesothelioma sarcomataidd sy’n llai cyffredin. Mae’r celloedd yn fwy o siâp ofal ac yn llai tebyg i’w gilydd. Mae’n tueddu i fod yn fwy ffyrnig, ac nid yw’n ymateb cystal i driniaeth.
  • Mesothelioma deugyfnodol (biphasic) sydd hefyd yn anghyffredin ac yn cynnwys y ddau fath o gelloedd. Mae’n fwy ffyrnig na mesothelioma epithelaidd ond yn tyfu’n arafach na mesothelioma sarcomataidd.

Achosion golygu

Prif achos mesothelioma yw anadlu llwch asbestos. Ffibr yw asbestos sydd i’w gael yn naturiol, ac a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio tipyn yn y byd adeiladu a diwydiannau eraill tan yn hwyr yn yr 1990au. Cyn hynny, roedd asbestos yn arfer cael ei ddefnyddio i inswleiddio ac amddiffyn adeiladau rhag tân, yn enwedig mewn teils to, inswleiddio peipiau, bwyleri a haenau oedd yn cael eu chwistrellu ar nenfydau a waliau. Gwaharddwyd defnyddio cynnyrch efo asbestos ynddynt ym Mhrydain yn 1999. Mae rheolau caeth am dynnu asbestos yn ddiogel. Ond, mae asbestos yn dal mewn llawer o adeiladau heddiw, gan gynnwys cartrefi, ysgolion ac ysbytai. Mae mesothelioma yn cymryd amser hir i ddatblygu o’r adeg y daethpwyd i gysylltiad ag asbestos am y tro cyntaf. Felly, efallai bod pobl sy’n cael symptomau rŵan wedi dod i gysylltiad ag asbestos flynyddoedd maith yn ôl. Mae pobl oedd yn arfer gweithio mewn diwydiannau ble defnyddid asbestos yn gyson mewn mwy o berygl o ddatblygu’r clefyd.

Mae mesothelioma dipyn yn llai cyffredin mewn merched, mae’n debyg oherwydd eu bod nhw’n llai tebygol o fod wedi gweithio’n uniongyrchol efo asbestos. Mae pobl hŷn mewn mwy o berygl oherwydd eu bod nhw’n fwy tebygol na phobl ifanc o fod wedi anadlu asbestos cyn i bawb ddod i wybod am y peryglon.

Symptomau golygu

Dim ond degawdau ar ôl dod i gysylltiad efo asbestos mae symptomau mesothelioma yn dangos. Mae’r cyflwr yn hir yn dangos, ond yna’n datblygu’n gyflym. Mae'r prif symptomau yn cynnwys teimlo allan o wynt, tagu a poen yn y frest. Wrth i mesothelioma ddatblygu, mae’n aml yn achosi i hylif hel yn eich gofod plewrol. Yr enw ar hyn yw tywalltiad plewrol. Mae’r tywalltiad plewrol yn cymryd rhywfaint o’r lle yn eich brest ac yn gwasgu’r ysgyfaint sy’n cael ei heffeithio, a’i nadu rhag ehangu wrth i chi anadlu ac achosi i chi deimlo allan o wynt. Hyd yn oed os nad yw hylif yn hel, mae’r tiwmor yn gallu achosi i chi deimlo’n fyr eich gwynt drwy dyfu o gwmpas eich ysgyfaint a’i nadu rhag ehangu’n iawn. Mae mesothelioma fel arfer yn dechrau yn eich pilen blewrol allanol sy’n leinio tu mewn i wal eich brest a’ch asennau. Mae’r tiwmor yn aml yn achosi poen yn eich brest wrth iddo dyfu i mewn i wal eich brest, er enghraifft drwy lidio(irritate) nerfau. Weithiau mae’n lledaenu tu allan i’ch brest i organau eraill yn eich corff. Ond mae’n anghyffredin i’r lledaenu hwn achosi symptomau. Ond, efallai y cewch chi symptomau eraill fel blinder neu deimlo’n flinedig drwy’r amser, chwysu dipyn, colli awydd bwyd a cholli pwysau.

Triniaeth golygu

Mae pedair prif ffordd o drin mesothelioma:

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!