Metaffisegwyr (barddoniaeth)

Carfan o feirdd Saesneg yn yr 17g oedd y Metaffisegwyr sy'n nodedig am gymhlethdod emosiynol a dyfeisgarwch ddeallusol eu barddoniaeth a'r cysetiau a ffraethineb sy'n lliwio'u gwaith.[1] Bathwyd yr enw gan y beirniad Samuel Johnson yn y 18g.

Naws ddeallusol ac ysbrydol sydd i farddoniaeth John Donne (1572–1631), y cyntaf o'r Metaffisegwyr. Delweddaeth anarferol a llinellau arabus sydd yn lliwio'i gerddi, a dyrchefir cynnwys yn hytrach na ffurf. Yn ogystal â'i gerddi serch, fe gyfansoddodd barddoniaeth grefyddol. Ysgrifennwyd cerddi duwiol hefyd gan Fetaffisegwr arall, yr Eingl-Gymro George Herbert (1593–1633), a chyda delweddaeth Gatholig gan Richard Crashaw (1612/12–49). Ymhlith beirdd eraill y traddodiad Metaffisegol mae Thomas Traherne (1637–74) ac Abraham Cowley (1618–67).

Cyferbynnir y Metaffisegwyr â'r Cafaliriaid, grŵp arall o feirdd a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g. Cyfansoddodd Andrew Marvell (1621–78) farddoniaeth sy'n nodweddiadol o'r ddau draddodiad.

Roedd y bardd Cymreig, Henry Vaughan, yn aelod yr ysgol barddoniaeth metaffisegol.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Metaphysical poets. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Awst 2019.