Metrolink, St Louis

Mae Metrolink St Louis yn rhan o rwydwaith cludiant Metro St Louis yn ninas St Louis, Missouri, sydd yn cynnwys bysiau hefyd. Mae 2 linell erbyn hyn (y Llinell Goch a Llinell Glas) a 38 o orsafoedd.

Metrolink, St Louis
Enghraifft o'r canlynollight rail Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBlue Line, Red Line Edit this on Wikidata
Map
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
GweithredwrBi-State Development Agency Edit this on Wikidata
Enw brodorolMetroLink Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthSt. Louis, Missouri Edit this on Wikidata
Hyd74 cilometr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.metrostlouis.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Trên yn gadael Maes Awyr Lambert
Gorsaf reilffordd Maes Awyr Lambert

Hanes golygu

Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1990, yn defnyddio hen reilffyrdd, gan gynnwys un ar Bont Eads ar draws Afon Mississippi a thwneli o dan ganol y ddinas[1]. Gwahoddwyd 6 artist i gydweithio gyda'r penseiri a peirianyddion yn ystod y gwaith cynllunio.[2] Agorwyd y lein gyntaf, 14 milltir o hyd, gyda 16 o orsafoedd, ar 31 Gorffennaf 1993. Agorwyd ail lein, i Faes Awyr Lambert ym 1994, yn ogystal ag estyniad i orsaf reilffordd East Riverfront. Agorwyd Gorsaf reilffordd Terminal #2 y maes awyr ym 1998. Dechreuodd gwaith adeiladu lein newydd i St Clair ym 1998. Agorwyd y lein, gyda 8 o orsafoedd newydd, yn 2001. Yn 2006, agorwyd Estyniad Traws-Gwlad Metrolink, 8 milltir o hyd ac yn cynnwys 9 gorsaf ychwanegol.[3] Estynnwyd y rhwydwaith o orsaf reilffordd Coleg De-orllewinol Illinois i orsaf reilffordd Shiloh-Scott ym Mai 2003, yn costio $75,000.000 gyda grant o $60,000,000 o Raglen Illinois FIRST (Fund for Infrastructure, Roads, Schools, and Transit) a $15,000,000 oddi ar Ardal Trafnidiaeth St Clair. Agorwyd Estyniad Traws Gwlad 9 milltir o hyd rhwng Gorsaf reilffordd Forest Park-DeBaliviere a Gorsaf reilffordd Shrewsbury-Lansdowne ar 26ain Awst 2006, yn cysylltu Prifysgol Washington]], Canolfan siopa Galleria St Louis, Maplewood a Shrewsbury, Missouri i’r rhwydwaith. Cyllidwyd y prosiect cyfan gan gyfrandaliadau werth $340 miliwn. Disodlwyd adeiladwr cyffredinol i brosiect yn ystod yr haf 2204. Aeth Metro i’r llys yn erbyn y cwmniau adeiladu, yn gofyn am $81 miliwn am dwyll a chamreolaeth. Gofynnodd y cwmniau am $17 miliwn bod Metro ddim wedi talu amdano fo. Ar 1 Rhagfyr 2007 derbynwyd y cwmniau On December 1, 2007, derbynwyd y cwmniau $2.56 miliwn. Ar 27 Hydref 2008, ail-enwyd y ddwy linellau; Daeth y gangen i’r maes awyr y Llinell Goch, a’r gangen Shrewsbury y Llinell Las. Estynnwyd y Llinell Las o Emerson Park i Fairview Heights. Mae gan y drenau i gyd arwydd coch neu las arnynt.[4] Ar 9 Medi 014, cyhoeddwyd gan Adran Cludiant yr Unol Daleithiau bod cyllid o $10.3 miliwn ar gael ar gyfer gorsaf newydd yn ardal ymchwil Cortex y ddinas. Ychwanegwyd $5 milwn arall gan bartneriaeth sy’n cynnwys Prifysgol Washington, BJC Healthcare, Great Rivers Greenway a Chymuned Cortex. Agorwyd Gorsaf dramffordd Cortex ar 31 Gorffennaf 2018.[5]

 
Llinellau Coch a Glas MetroLink

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Missouri. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.