Michael Collins

gwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd (1890-1922)

Roedd Michael John ("Mick") Collins neu Micheál Ó Coileáin (16 Hydref 189022 Awst 1922) yn arweinydd y gwrthryfel Gwyddelig yn erbyn Prydain ac yn Weinidog Cyllid a phennaeth y Lluoedd Arfog i Weriniaeth Iwerddon Ganed Michael Collins yn Sam's Cross, ger Clonakilty, Swydd Corc, Iwerddon, i deulu o ffermwyr gweddol gefnog. Roedd ei dad, hefyd yn Michael Collins, yn 60 oed pan briododd Marianne O'Brien. Cawsant wyth o blant, ond bu farw ei dad pan oedd Mick yn chwech oed. Gadawodd Colins yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth i Lundain i chwilio am waith. Yno ymunodd a'r Frawdoliaeth Weriniaethol Wyddelig (IRB), cymdeithas oedd yn ymladd am annibyniaeth Iwerddon.

Michael Collins
Ganwyd16 Hydref 1890 Edit this on Wikidata
Clonakilty Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 1922 Edit this on Wikidata
Droichead na Bandan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd Edit this on Wikidata
SwyddChairman of the Provisional Government of the Irish Free State, Gweinidog ariannol Iwerddon, Gweinidog Cyfiawnder a Chyfartaledd Iwerddon, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSinn Féin Edit this on Wikidata
PartnerKitty Kiernan Edit this on Wikidata
llofnod
Am eraill o'r un enw, gweler Michael Collins (gwahaniaethu).

1916 golygu

Cymerodd ran weddol amlwg yng Ngwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916, ond gan na chafodd ei adnabod fel un o'r arweinwyr, ni chafodd ei ddienyddio. Cafodd ei garcharu yng ngwersyll carchar Fron-goch ger Y Bala hyd mis Rhagfyr 1916.

Y Rhyfel Annibyniaeth golygu

Pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon gydag ymladd rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon a'r lluoedd arfog Prydeinig, yn cynnwys y "Black and Tans", roedd Collins yn chwarae rhan amlwg iawn. Er gwaethaf holl ymdrechion y milwyr a'r plismyn Prydeinig, ni allasant ei ddal, er ei fod yn aml yn cerdded heibio iddynt ar strydoedd Dulyn. Ar 21 Tachwedd 1920 trefnodd Collins i'w ŵyr saethu 14 o swyddogion y fyddin Brydeinig oedd yn casglu gwybodaeth am y gwrthryfelwyr. Fel dial, aeth mintai o'r Black and Tans i gêm pêl-droed Wyddelig yn Croke Park yn Nulyn a saethu i'r dyrfa, gan ladd deuddeg, yn cynnwys un o'r chwaraewyr. Cofir am y diwrnod fel Bloody Sunday. Erbyn 1921 roedd y llywodraeth Brydeinig yn barod i drafod telerau heddwch, ac aeth Collins gyda nifer o arweinwyr eraill i Lundain i negodi gyda llywodraeth David Lloyd George. Yn Nghytundeb Eingl-Wyddelig cynigiwyd iddynt wladwriaeth annibynnol, yr hyn ddaeth yn Wladwriaeth Rydd Iwerddon ar yr amod fod chwech sir yng ngogledd yr ynys yn parhau dan lywodraeth Brydeinig fel Gogledd Iwerddon. Cytunodd Collins a'r lleill, er ei fod yn gwybod y byddai hyn yn annerbyniol gan rai o'r rhai oedd wedi bod yn cyd-ymladd ag ef. Aeth yn rhyfel cartref yn erbyn y rhai oedd yn gwrthod derbyn y cytundeb, yn cynnwys Éamon de Valera. Gerllaw Corc ar 22 Awst,1922 roedd Collins yn teithio mewn modur pan ymosodwyd arno gan fintai oedd yn gwrthwynebu'r cytundeb. Gallasant fod wedi gyrru ymlaen allan o berygl, ond mynnodd Collins aros a chymeryd rhan yn yr ymladd ei hun. Tarawyd ef gan fwled a'i ladd yn y fan.

Cofadail golygu

Codwyd Cofadail mewn gwerthfawrogiad i waith Collins ac Arthur Griffith ar Lawnt Tŷ Leinster yn 1923. Symudwyd hi yn 1939.

Dolenni allanol golygu