Cerddor Albanaidd o Dundee oedd Michael Marra (17 Chwefror 195223 Hydref 2012).

Michael Marra
Ganwyd17 Chwefror 1952 Edit this on Wikidata
Dundee Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
Ninewells Hospital Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata

Roedd yn fwyaf enwog am ysgrifennu caneuon, ond roedd o'n gerddor profiadol yn y byd gwerin ac wedi perfformio drwy wledydd Prydain, Awstralia a'r Unol Daleithiau ac wedi cydweithio efo cwmnïau theatr a dawns. Bu'n canu efo Cerddorfa Symffoni yr Alban a Cherddorfa Genedlaethol Yr Alban. Fe oedd awdur y ddrama, St Catherine's Day, ac ysgrifennodd gyfrol o straeon byrion, Karma Mechanics a hefyd yr opera Nan Garland. Cyhoeddodd sawl CD, gan gynnwys On Stolen Stationery, The Mill Lavvies, Posted Sober, Candy Philosophy, Pax Vobiscum, Gaels Blue, Quintet a Michael Marra.

Roedd ganddo radd o Brifysgol Dundee ac o Brifysgol Caledonia Glasgow.

Bu farw o gancr yr ysgyfaint yn 2012.

Dolenni allanol golygu