Cyfreithwraig Americanaidd a gwraig Barack Obama, Arlywydd Unol Daleithiau America, yw Michelle LaVaughn Robinson Obama (née Robinson) (ganwyd 17 Ionawr 1964).

Michelle Obama
Michelle Obama


Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 2009 – 20 Ionawr 2017
Arlywydd Barack Obama
Rhagflaenydd Laura Bush
Olynydd Melania Trump

Geni (1964-01-17) 17 Ionawr 1964 (60 oed)
Chicago, Illinois, Yr Unol Daleithiau
Plaid wleidyddol Plaid Ddemocrataidd
Priod Barack Obama
(1992–presennol)
Plant Malia Obama
Sasha Obama
Llofnod

Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn ochr ddeheuol Chicago a graddiodd o Brifysgol Princeton ac Ysgol y Gyfraith, Harvard. Wedi iddi orffen ei haddysg ffurfiol, dychwelodd i Chicago a derbyniodd swydd gyda chwmni cyfreithiol Sidley Austin, lle cyfarfu â'i gwr. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel aelod o staff i faer Chicago, Richard M. Daley ac i Ganolfan Feddygol Prifysgol Chicago. Trwy gydol 2007 a 2008, cyfrannodd i ymgyrch arlywyddol ei gwr, gan draddodi araith yng Nghynhadledd Ddemocrataidd Genedlaethol 2008. Mae hefyd yn fam i ddwy ferch, Malia a Sasha, ac yn chwaer i Craig Robinson, hyfforddwr pêl-fasged i Brifysgol Talaith Oregon.

Rhagflaenydd:
Laura Bush
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
20092017
Olynydd:
Melania Trump


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.