Mihangel VIII Palaiologos

Ymerawdwr Bysantaidd o 1259 hyd 1282 oedd Mihangel VIII Palaiologos neu Palaeologus (Groeg: Μιχαήλ Η΄ Παλαιολόγος, Mikhaēl VIII Palaiologos (1223 - 11 Rhagfyr, 1282). Roedd yn llywodraethwr Ymerodraeth Nicaea yn wreiddiol, ond dan ei deyrnasiad ef, ail-gipiwyd dinas Caergystennin, gan adfer yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ef oedd sefydlydd Brenhinllin y Palaiologiaid, a lywodraethodd yr ymerodraeth hyd ei chwymp yn 1453.

Mihangel VIII Palaiologos
Ganwyd1224 Edit this on Wikidata
Ymerodraeth Nicea Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1282 Edit this on Wikidata
Thrace Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd, Ymerodraeth Nicea Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
TadAndronikos Palaiologos Edit this on Wikidata
MamTheodora Angelina Palaiologina Edit this on Wikidata
PriodTheodora Palaiologina Edit this on Wikidata
PartnerDiplovatatzina Edit this on Wikidata
PlantManuel Palaiologos, Andronikos II Palaiologos, Konstantinos Palaiologos, Irene Palaiologina, Anna Palaiologina, Eudokia Palaiologina, Theodorus Palaiologos, Euphrosyne Palaiologina, Maria Palaiologina Edit this on Wikidata
LlinachPalaiologos Edit this on Wikidata
Mihangel yn penlinio o flaen Crist; darn arian a fathwyd i ddathlu adferiad Caergystennin

Roedd Mihangel yn aelod o un o deuluoedd mwyaf bonheddig yr ymerodraeth. Yn fuan ar ôl marwolaeth yr ymerawdwr Theodore II Doukas Laskaris yn 1258, daeth yn raglaw dros yr ymerawdwr ieuanc Ioan IV Doukas Laskaris, yna yn 1259 yn gyd-ymerawdwr.

Ar 25 Gorffennaf, 1261, llwyddodd cadfridog Mihangel VIII, Alexios Strategopoulos, i enill dinas Caergystennin yn ôl oddi wrth olynwyr y croesgadwyr, gan ail-greu'r Ymerodraeth Fysantaidd. Yn Awst yr un flwyddyn, dallwyd Ioan IV, a'i yrru i fynachlog.