Golygydd sain o Seland Newydd oedd Michael Alexander Hopkins (bu farw 30 Rhagfyr 2012 yn 53 oed). Cydweithiodd gyda'r cyfarwyddwr a chynhyrchydd Peter Jackson ar nifer o ffilmiau, gan gynnwys Braindead, Heavenly Creatures, The Frighteners a chyfres The Lord of the Rings.

Mike Hopkins
Ganwyd12 Awst 1959 Edit this on Wikidata
Greytown Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 2012 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Greytown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd sain Edit this on Wikidata
Gwobr/auAcademy Award for Best Sound Editing Edit this on Wikidata

Cyd-enillodd Hopkins Wobr yr Academi am olygu sain yn 2003 gyda Ethan Van der Ryn am eu gwaith ar The Lord of the Rings: The Two Towers, ac yn 2006 enillodd y ddau yr un Oscar eto am eu gwaith ar King Kong.[1] Enillodd Hopkins hefyd tair Gwobr Ffilm a Theledu Seland Newydd.[2]

Bu farw ar 30 Rhagfyr 2012 trwy foddi mewn damwain rafftio ar Afon Waiohine, Ynys y Gogledd.[3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Mike Hopkins: Oscar-winning sound editor who worked with Peter Jackson. The Independent (3 Ionawr 2013). Adalwyd ar 18 Ionawr 2013.
  2. (Saesneg) Szalai, George (31 Rhagfyr 2012). Oscar-Winning Peter Jackson Collaborator Mike Hopkins Dies in Rafting Accident. The Hollywood Reporter. Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.
  3. (Saesneg) Wairarapa Police name Waiohine River victim. Heddlu Seland Newydd (31 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.
  4. (Saesneg) Oscar winner Michael Hopkins dies in rafting accident. BBC (31 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 1 Ionawr 2013.

Dolen allanol golygu