Gwleidydd Americanaidd yw Michael Richard Pence (ganwyd 7 Mehefin 1959). Ef oedd 48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 2017 a 2021. Yn gyfreithiwr yn ôl galwedigaeth, gwasanaethodd fel Llywodraethwr Indiana rhwng 2013 [2] a 2017 ac fel aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau rhwng 2001 a 2013. Yn Weriniaethwr, cadeiriodd Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ rhwng 2009 a 2011. Mae Pence yn gefnogwr hirhoedlog i'r mudiad Te Parti.[3][4]

Mike Pence
48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
Mewn swydd
20 Ionawr 2017 – 10 Ionawr 2021
ArlywyddDonald Trump
Rhagflaenwyd ganJoe Biden
Dilynwyd ganKamala Harris
50fed Llywodraethwr Indiana
Mewn swydd
14 Ionawr 2013 – 9 Ionawr 2017
LieutenantSue Ellspermann
Eric Holcomb
Rhagflaenwyd ganMitch Daniels
Dilynwyd ganEric Holcomb
Aelod o'r
Tŷ Cynrychiolwyr
o Indiana
Mewn swydd
3 Ioanwr 2001 – 3 Ionawr 2013
Rhagflaenwyd ganDavid M. McIntosh
Dilynwyd ganLuke Messer
Etholaeth2il ardal (2001–2003)
6ed ardal (2003–2013)
Cadeirydd y Gynhadledd Weriniaethol y Tŷ
Mewn swydd
3 Ionawr 2009 – 3 Ionawr 2011
DirprwyCathy McMorris Rodgers
ArweinyddJohn Boehner
Rhagflaenwyd ganAdam Putnam
Dilynwyd ganJeb Hensarling
Manylion personol
GanedMichael Richard Pence
(1959-06-07) 7 Mehefin 1959 (64 oed)
Columbus, Indiana, U.D.
Plaid gwleidyddolGweriniaethol
Pleidiau
eraill
Democrataid (cyn 1983)[1]
PriodKaren Batten (pr. 1985)
Plant3
PerthnasauGreg Pence (brawd)
AddysgColeg Hanover (BA)
Prifysgol Indiana, Indianapolis (JD)
Llofnod
GwefanGwefan Swyddogol

Ar Orffennaf 14, 2016, dywedodd ymgyrch Donald Trump mai Pence fyddai dewis Trump ar gyfer partner yn etholiad arlywyddol 2016.[5] Aeth ymgyrch Trump-Pence ymlaen i drechu ymgyrch Clinton-Kaine yn yr etholiad Arlywyddol ar Dachwedd 8, 2016. Cafodd Pence ei urddo’n Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Ionawr 20, 2017.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Pence yn Ysbyty Rhanbarthol Columbus yn Columbus, Indiana [6] un o chwech o blant Nancy Jane (g. Cawley) ac Edward J. Pence, Jr [7] [8] ei deulu yn Ddemocratiaid Catholig Gwyddelig.[9]

Graddiodd Pence o Ysgol Uwchradd Gogledd Columbus ym 1977. Enillodd BA mewn Hanes o Goleg Hanover ym 1981 a JD o Ysgol y Gyfraith Robert H. McKinney o Brifysgol Indiana ym 1986.

Ar ôl graddio o ysgol gyfraith ym 1986, bu Pence yn gweithio fel atwrnai mewn practis preifat.[10] Parhaodd i ymarfer y cyfraith yn dilyn ei ail rediad aflwyddiannus i'r Gyngres.

Tŷ Cynrychiolwyr yr UDA (2001–2013) golygu

Ym mis Tachwedd 2000, etholwyd Pence i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau yn 2il Ranbarth Cynghresol Indiana ar ôl i beriglor chwe blynedd David M. McIntosh (1995-2001) ddewis rhedeg am lywodraethwr Indiana.

 
Pence fel cynrychiolydd, 2009

Ar 8 Tachwedd, 2006, cyhoeddodd Pence ei ymgeisyddiaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Weriniaethol(arweinydd lleiafrifol) yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Canolbwyntiodd datganiad Pence, yn cyhoeddi ei rediad am arweinydd lleiafrifol, ar "ddychwelyd i werthoedd" Chwyldro Gweriniaethol 1994. Ar Dachwedd 17, collodd Pence i’r Cynrychiolydd John Boehner o Ohio trwy bleidlais 168–27–1 (aeth yr un bleidlais i’r Cynrychiolydd Joe Barton o Texas).[11]

Gwasanaethodd Pence am gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor Astudio Gweriniaethol. Roedd aseiniadau ei Bwyllgor yn Nhŷ’r UD yn cynnwys: Materion Tramor, Is-bwyllgor ar y Dwyrain Canol a De Asia (Is-gadeirydd); Barnwriaeth, Is-bwyllgor ar y Cyfansoddiad (Is-gadeirydd), ac Is-bwyllgor Eiddo Deallusol, Cystadleuaeth, a'r Rhyngrwyd .

Tra yn y Gyngres, roedd Pence yn perthyn i Cawcws y Tea Party.[12] Roedd Pence hefyd yn perthyn i'r Cawcws cynghresol a'r Rhyngrwyd, Cawcws Cadwraeth Ryngwladol, a Cawcws Chwaraewyr.

Ar ôl etholiad mis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Pence na fyddai’n rhedeg i’w ailethol yn Gadeirydd Cynhadledd y Gweriniaethwyr.[13] Ar 5 Mai 2011, cyhoeddodd Pence y byddai'n ceisio'r enwebiad Gweriniaethol ar gyfer Llywodraethwr Indiana yn 2012. [14] [15]

Llywodraethwr Indiana (2013–2017) golygu

Ar 6 Tachwedd 2012, enillodd Pence yr etholiad llywodraethol,[16] gan drechu'r enwebai Democrataidd John R. Gregg a'r enwebai Libertaraidd Rupert Boneham .

 
Y Llywodraethwr Mike Pence yn siarad yng Nghynhadledd Gweithredu Gwleidyddol y Ceidwadwyr (CPAC) 2015 yn National Harbour, Maryland ar 27 Chwefror 2015

Daeth Pence yn 50fed Llywodraethwr Indiana ar 14 Ionawr 2013.

Gwnaeth Pence diwygio treth yn yr ardal, sef toriad cyfradd treth incwm o 10%, yn flaenoriaeth ar gyfer 2013.[17]

Ar 26 Mawrth 2015, llofnododd Pence Mesur Senedd Indiana 101, a elwir hefyd yn fil "gwrthwynebiadau crefyddol" Indiana (RFRA), yn gyfraith.[18] Cafodd llofnodi'r gyfraith ei feirniadu'n helaeth gan bobl a grwpiau a oedd yn teimlo bod y gyfraith wedi'i geirio'n ofalus mewn ffordd a fyddai'n caniatáu gwahaniaethu yn erbyn pobl LGBT. [19] [20]

Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth Pence ceisio'n aflwyddiannus i atal ffoaduriaid o Syria rhag cael eu hailsefydlu yn Indiana.[21]

Enwebiad is-arlywyddol 2016 golygu

Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd Trump fod tri o bobl ar ei restr fer: Chris Christie, Newt Gingrich a Pence ei hun. Ar 14 Gorffennaf 2016, adroddwyd bod Trump wedi dewis Pence fel ei phartner.[22] Ar 15 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Trump ar ei Twitter mai Pence fyddai ei phartner. Gwnaeth gyhoeddiad ffurfiol yn Ninas Efrog Newydd ar 16 Gorffennaf 2016.

Byddai Trump yn mynd ymlaen i drechu Clinton yn yr etholiad cyffredinol gan wneud Pence yn Is-Arywydd-ethol yr Unol Daleithiau.

Is-Alywydd yr Unol Daleithiau (2017-2021) golygu

Cafodd Pence ei urddo fel 48ain Is-Arywydd yr Unol Daleithiau ar ôl cael ei dyngu gan Clarence Thomas ar Ionawr 20, 2017.

Ar 27 Ionawr 2017, siaradodd Pence yn y March for Life yn Washington DC, gan ddod yn is-Arlywydd cyntaf a swyddog yr Unol Daleithiau ar y safle uchaf i siarad erioed yn y digwyddiad blynyddol. [23] [24]

Ym mis Chwefror 2020, penodwyd Pence yn gadeirydd Tasglu Coronafirws y Tŷ Gwyn, a sefydlwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 yn yr Unol Daleithiau.[25]

Ymbellhawyd oddi wrth Trump ar ddiwedd ei dymor. Yn gyntaf wnaeth mynd i'r gyngres 6 Ionawr 2021 i ardystio canlyniadau etholiad 2020 o blaid y bleidlais ddemocrataidd i Joe Biden (enillydd), yn erbyn addewid yr Arlywydd Trump. Dywedodd ei fod yn rhaid iddo ddilyn y cyfansoddiad a dim gwrthdroi'r bleidlais. Daeth o dan fygythiad wrth ddweud hyn wrth i derfysgwyr oedd yn cefnogi Trump dorri i mewn i'r capitol wrth i'r ardystio digwydd, yn beth a elwir Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gludo i stafell ddiogel cyn i'r terfysgwyr achosi niwed. Ar ôl i'r heddlu a swyddogion diogelwch cael gafael yn y sefyllfa a gwneud y Capitol yn ddiogel parhawyd gan ardystio Biden fel arlywydd nesaf America.[26]

Fe wnaeth hefyd mynd i urddo Biden ar 20 Ionawr 2021 pan wnaeth Arlywydd Trump ddim hyd yn oed ystyried mynd i'r seremoni yn groes i draddodiad 150 mlynedd. Yn ogystal nid oedd Pence wedi mynd i seremoni diwedd Trump yn Joint Base Andrews.[27][28]

Bywyd personol golygu

Mae Pence a'i wraig Karen Pence wedi bod yn briod ers 1985. Mae ganddynt dri o blant: Michael, Charlotte, ac Audrey. Mae Pence yn Gristion. Ma ei frawd, Greg, yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Eason, Rrian (November 9, 2016). "Next VP: 10 things to know about Indiana Gov. Mike Pence". IndyStar. Cyrchwyd December 4, 2016.
  2. "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. November 6, 2012. Cyrchwyd December 17, 2012.
  3. Amber Phillips, 10 things you should know about Mike Pence, Donald Trump’s likely running mate, Washington Post (July 14, 2016).
  4. Michael Muskal, Mike Pence to run for Indiana governor: Republicans had expected Rep. Mike Pence, a 'tea party' favorite, to join the state race to succeed Gov. Mitch Daniels, who may make a run for the GOP presidential nomination, Los Angeles Times (May 5, 2011).
  5. "Donald Trump's Campaign Signals He Will Pick Mike Pence as Running Mate". The New York Times. July 14, 2016.
  6. Reports, Staff. "The Mike Pence timeline: Path from Columbus to the White House". The Republic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-19.
  7. "Wedding Bells Ring Out For 3 S. Side Couples". Chicago Daily Tribune. April 5, 1956.[dolen marw]
  8. http://www.indystar.com/relart/20121006/NEWS05/210060343
  9. Burton, Danielle (November 15, 2006).What You Didn't Know About Rep. Mike Pence of Indiana, U.S. News & World Report accessed March 31, 2015.
  10. "Your Local Officials: Indiana Governor Mike Pence". National Retail Federation.
  11. "Boehner elected as Republican leader: Succeeds Hastert in top GOP role in Democratic-controlled House" Archifwyd 2012-10-20 yn y Peiriant Wayback., Associated Press, November 17, 2006
  12. Janie Lorber, Tea Party Caucus Tackles Racism Charge (July 21, 2010).
  13. "Letter of Resignation from House Republican Caucus" (PDF). Cyrchwyd November 3, 2010.
  14. Camia, Catalina (January 27, 2011). "Rep. Pence to skip GOP race for president". USA Today. Cyrchwyd August 18, 2011.
  15. Muskal, Michael (May 5, 2011). "Mike Pence to run for Indiana governor". Los Angeles Times. Cyrchwyd May 5, 2011.
  16. "Pence in as governor of Indiana; Hassan wins N.H." nbcpolitics.nbcnews.com. November 6, 2012. Cyrchwyd December 17, 2012.
  17. Rucker, Philip (December 12, 2014) – "Mike Pence Lays Out Vision for a Presidential Campaign. But Will He Be a Candidate?". The Washington Post. Retrieved January 1, 2015.
  18. "Indiana Gov. Pence defends religious objections law: 'This bill is not about discrimination' – The Chicago Tribune – 26 March 2015".
  19. "Thousands march in Indiana to protest law seen targeting gays". Reuters. March 29, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-29. Cyrchwyd 2020-07-31.
  20. "These Religious Groups Want Nothing To Do With Indiana's New Law". The Huffington Post. April 4, 2015.
  21. "Exodus, continued: Indiana's governor is losing his fight to keep Syrian refugees away: Most other governors seem to have quietly dropped the matter". The Economist. March 14, 2016. Cyrchwyd March 15, 2016.
  22. James Briggs and Tony Cook (July 14, 2016). "Pence is Trump's VP pick". The Indianapolis Star.
  23. Gaudiano, Nicole (January 27, 2017). "At Anti-Abortion Rally, Mike Pence is a Beacon of Hope". USA Today. Cyrchwyd January 27, 2017.
  24. Fredericks, Bob (January 27, 2017). "Mike Pence Makes History by Rallying with Pro-Life Marchers". New York Post. Cyrchwyd January 27, 2017.
  25. "For Pence, Coronavirus Task Force Is A High-Profile Assignment With Political Risk". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-31.
  26. "Swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod terfysgoedd Washington wedi marw". Golwg360. 2021-01-08. Cyrchwyd 2021-01-20.
  27. Semones, Evan. "Vice President Harris bids farewell to Pence". POLITICO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-20.
  28. Caralle, Katelyn (2021-01-20). "Mike Pence arrives for Biden's inauguration in final split from Trump". Mail Online. Cyrchwyd 2021-01-20.

Gwefannau eraill golygu