Mileniwm

mil o flynyddoedd
Mae'r ethygl yma yn trafod y cyfnod o amser. Am y stadiwm yng Nghaerdydd, gweler Stadiwm y Mileniwm

Mileniwm yw'r term a ddefnyddir am gyfnod o fil o flynyddoedd; daw o'r Lladin mille (mil) ac annum (blwyddyn). Fel rheol, mae'n cyfeirio at gyfnod penodol mewn calendr arbennig; er enghraifft cafodd Stadiwm y Mileniwm ei enw oherwydd ei fod wedi ei adeiladu ar drothwy'r trydydd mileniwm OC.

Tua'r cyfnod yma, bu dadlau a oedd y mileniwm yn dechrau ar 1 Ionawr 2000 ynteu ar 1 Ionawr 2001. Ar 1 Ionawr 2000 y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r dathliadau. Y ddadl yn erbyn dathlu ar y dyddiad yma yw nad oes mewn gwirionedd flwyddyn 0 yng [[Calendr Gregori|Nghalendr Gregori].

Eginyn erthygl sydd uchod am y calendr neu amser. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.