Awdures o'r Almaen oedd Mina Witkojc (28 Mai 1893 - 11 Tachwedd 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, cyfieithydd a newyddiadurwr Sorbaidd a ysgrifennai yn yr iaith Sorbeg Isaf.[1]

Mina Witkojc
Ganwyd28 Mai 1893 Edit this on Wikidata
Burg (Spreewald) Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Papitz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethnewyddiadurwr, bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auQ47455270, Ćišinski-Preis Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Burg (Kolkwitz) a oedd yr adeg honno yn Ymerodraeth yr Almaen a bu farw yn Papitz yn ne-ddwyrain Brandenburg.[2][3][4][5]

Yn Awst 1921, digwyddodd gyfarfod â grŵp o ddeallusion Tsiec a Sorbeg Uchaf gydag Arnošt Muka, a oedd yn teithio yn y Spreewald, a thrwy hyn, daeth yn ymwybodol o'i chefndir Wendish / Sorbeg Isaf. Hyd hynny, ysgrifennai a siaradai'n bennaf yn yr Almaeneg.

Aeth i Bautzen, lle bu'n gweithio o 1923 ymlaen, i'r papur newydd Sorbeg Isaf Serbski Casnik. Cynyddodd cylchrediad y papur o 200 i 1,200 copi. Yn ystod y blynyddoedd hyn, cafodd lawer o gysylltiadau â deallusion Sorbeg Uchaf, pobl fel Arnošt Muka a Jan Cyž, a chafodd lawer o awgrymiadau ganddo. Cyfieithodd Mina Witkojc destunau gan awduron ieithoedd Slafaidd eraill i'r iaith Sorbeg Isaf: yr awduron Božena Němcová a Petr Bezruč o'r Tsieceg, Alexander Pushkin o Rwsieg a Handrij Zejler a Jakub Bart-Ćišinski o Sorbeg Uchaf.

Rhai cerrig filltir golygu

Yn 1926, cymerodd Mina Witkojc ran yng Nghyngres y Cenhedloedd Ewropeaidd yn Genefa fel cynrychiolydd ac yn 1930 aeth i gyfarfod y mudiad gymnasteg Sokol yn Iwgoslafia, a gredai mewn meddwl a chorff iach.

Yn 1931 cafodd Mina Witkojc ei gorfodi allan o arweinyddiaeth y Serbiaki Casnik oherwydd ei hagweddau democrataidd. Yn 1933 cafodd ei gwahardd rhag ysgrifennu gan y llywodraeth Sosialaidd Genedlaethol newydd.

Yn 1936 symudodd i'w hen gartref yn Burg. Yno enillodd ei bywoliaeth fel labrwr amaethyddol.

Yn 1937 gwaharddwyd defnyddio ieithoedd Wendish yn yr Almaen.

Yn 1941, gwaharddwyd Mina Witkojc rhag byw yn ardal weinyddol Dresden, ac yn 1942 yn ardal llywodraethol Frankfurt / Oder. Gorfodwyd hi i adael Lusatia.

Gweithiau golygu

  • Dolnoserbske basni, Budyšin 1925
  • Wĕnašk błośańskich kwĕtkow, Budyšin 1934
  • K swĕtłu a słyńcu, Berlin 1955
  • Prĕdne kłoski, Berlin 1958
  • Po drogach casnikarki, Budyšin 1987

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Maćica Serbska am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Q47455270 (1972), Ćišinski-Preis .

Cyfeiriadau golygu

  1. Stone, Gerald. 2015. Slav Outposts in Central European History: The Wends, Sorbs and Kashubs. Bloomsbury Publishing.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122403969. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122403969. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122403969. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb122403969. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.

Dolennau allanol golygu