Minim (cerddoriaeth)

Mewn cerddoriaeth, minim yw nodyn a chwarëir am hanner amser yr hannerbrif a dwywaith amser y crosiet. Yn nifer o arwyddion amser fel 4/4 mae'r minim yn para dau guriad.

Minim gyda'r coesyn yn wynebu i fynny, minim gyda'r coesyn yn wynebu i lawr a saib y minim.

Mae'r saib y minim yn dangos tawelwch am yr un amser. Llunir saib y minim gyda phetryal du yn eistedd ar ben llinell ganol yr erwydd. Fel pob nodyn gyda choesyn, llunir y minim gyda'r coesyn yn wynebu i fynny i dde pen y nodyn pan yn is na llinell ganol y staff. Pan maen nhw wedi eu lleoli uwch y llinell ganol, fe'i lunir gyda'r coesyn yn wynebu i lawr i chwyth pen y nodyn.

Mae enwau'r nodyn a'r saib hwn yn wahanol iawn yn yr ieithoedd Ewropeaidd fel dengys y tabl isod:

Iaith Enw'r nodyn Enw'r saib
Almaeneg Halbe Note Halbe Pause
Groeg Imisi/miso (ήμισι/μισό) Pafsi imiseos/pafsi misou (παύση ημίσεος/παύση μισού)
Ffrangeg blanche demi-pause
Eidaleg minima pausa di minima
Sbaeneg blanca silencio de blanca
Portiwgaleg mínima pausa de mínima

Mae'r enwau Sbaeneg a Ffrangeg yn golygu "gwyn". Mae'r enw Groeg yn golygu "hanner".

Gweler hefyd golygu