Creadur ym mytholeg Roeg a borteadir fel hanner dyn a hanner tarw oedd y Minotor. Roedd yn trigo mewn labrinth ar ynys Creta.

Y Minotor: darlun lliw du ar oren ar kalos Groegaidd o tua 550 CC.
Theseus yn lladd y Minotor: darlun ar amffora o Atica, tua 540 CC.

Cenhedlwyd y Minotor ar Pasiphaë, gwraig Minos, brenin Creta, gan darw gwyn a anfonwyd i'r brenin gan Poseidon. Cuddiodd Minos yr anghenfil mewn labrinth a adeiladawyd gan Daedalus ger Cnossos, prifddinas yr ynys.

Yn ôl y chwedl, roedd Athen yn gorfod gyrru saith dyn ieuanc a saith merch ieuanc i Minos, brenin Creta bob blwyddyn fel teyrnged, a byddent yn cael eu bwydo i'r Minotor. Ymunodd yr arwr Theseus a'r rhai oedd yn cael eu gyrru i Minos un flwyddyn, a chyda chymorth Ariadne, merch Minos, lladdodd y Minotor.

Ceir sawl dadansoddiad o chwedl y Minotor. Roedd gan deirw le amlwg yng nghrefydd a chymdeithas y Cretiaid hynafol a chredir mai un o brif dduwiau'r ynys oedd y Minotor. Ceir sawl creadur tebyg ym mytholeg yr Henfyd, e.e. Baal Moloch y Ffeniciaid. Mae'n bosibl gweld goruchafiaeth Groeg ar Creta yn y chwedl hefyd.

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).
  Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato