Mithridates VI, brenin Pontus

Brenin Pontus yn Asia Leiaf rhwng 120 a 63 CC oedd Mithridates VI (Groeg: Μιθριδάτης), a elwir hefyd yn Mithridates Eupator neu Mithridates Fawr, (132 - 63 CC). Roedd yn un o elynion mwyaf ystyfnig a llwyddiannus Gweriniaeth Rhufain yn y cyfnod yma.

Mithridates VI, brenin Pontus
Ganwyd134 CC, 132 CC Edit this on Wikidata
Sinop Edit this on Wikidata
Bu farw63 CC Edit this on Wikidata
Bosporan Kingdom Edit this on Wikidata
DinasyddiaethKingdom of Pontus Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd milwrol Edit this on Wikidata
Swyddlist of kings of Pontus Edit this on Wikidata
TadMithridates V of Pontus Edit this on Wikidata
MamLaodice VI Edit this on Wikidata
PriodLaodice, Monime, Hypsicratea, Berenice of Chios, Stratonice of Pontus Edit this on Wikidata
PartnerAdobogiona the Elder Edit this on Wikidata
PlantPharnaces II of Pontus, Mithridates of Colchis, Cleopatra of Pontus, Arcathius, Machares, Mithridates I of the Bosporus, Drypetina, Ariarathes IX of Cappadocia, Adobogiona the Younger, Athenais Philostorgos II, Nysa, Xiphares, Orsabaris, Xerxes of Pontus, Eupatra, Cleopatra the Younger Edit this on Wikidata
LlinachMithridatic dynasty Edit this on Wikidata

Roedd Mithridates VI yn fab i Mithridates V (150 CC - 120 CC). Bu ei dad farw pan oedd Mithridates yn ieuanc, ac am gyfnod ei fam Gespaepyris fu’n rheoli’r deyrnas. Tua. 115 CC diorseddodd Mithridates ei fam a’i charcharu. I sicrhau ei safle, lladdodd nifer o’i frodyr a priododd ei chwaer, Laodice.

Uchelgais Mithridates oedd cael rheolaeth dros y cyfan o ardal y Môr Du ac Anatolia. Concrodd Colchis, a gorchfygodd y Scythiaid a’u gorfodi i’w gydnabod fel arglwydd. Cytunodd i rannu Paphlagonia a Galatia gyda Nicomedes III, brenin Bithynia. Yn ddiweddarach aeth yn rhyfel rhwng Mithridates a Nicomedes ynghylch Cappadocia, ac wedi i Mithridates ei orchfygu mewn nifer o frwydrau, gofynnodd Nicomedes am gymorth Rhufain.

Parhaodd yr ymladd dan frenin nesaf Bithynia, Nicomedes IV, a choncrodd Mithridates Bithynia ac ymestyn ei awdurdod hyd y Propontis. Cafodd gefnogaeth y dinasoedd Groegaidd, yn cynnwys Athen, yn erbyn Rhufain. Gwnaeth gynghrair a Tigranes Fawr, brenin Armenia, a briododd Cleopatra, merch Mithridates.

Yn 88 CC, gorchymynodd Mithridates ladd pob Rhufeiniwr yng ngorllewin Anatolia; dywedir i 80,000 o wyr, gwragedd a phlant gael eu lladd. Ymladdwyd rhyfel rhwng Mithridates a Rhufain rhwng 88 CC and 84 CC, a gorfododd y cadfridog Rhufeinig Lucius Cornelius Sulla Mithridates i encilio o Wlad Groeg. Fodd bynnag, roedd Gaius Marius wedi cipio grym yn Rhufain, a gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates er mwyn medru dychwelyd i Rhufain.

Darn arian gyda delw Mithriadates VI , brenin Pontus.

Pan geisiodd Rhufain feddiannu Bithynia,ymosododd Mithridates, a bu rhyfel arall rhwng 83 CC a 82 CC, gyda’r cadfridogion Lucullus ac yna Gnaeus Pompeius Magnus yn ymladd yn erbyn Mithridates. Ni orchfygwyd Mithridates yn derfynol hyd y trydydd rhyfel, rhwng 75 CC a 65 CC, pan orchfygwyd ef gan Pompeius a’i orfodi i ffoi i’r Crimea. Ceisiodd godi byddin arall i ymladd yn erbyn Rhufain, ond bradychwyd ef gan ei fab, a lladdodd ei hun yn Panticapaeum. Enwyd dinas Eupatoria yn y Crimea ar ei ôl.

Ceir nifer o hanesion am Mithridates. Dywed Plinius yr Hynaf ei fod yn medru siarad iaith bob un o’r ddwy genedl ar hugain oedd dan ei awdurdod. I osgoi’r perygl o gael ei wenwyno, dywedir iddo ddechrau cymryd ychydig o wenwyn a chynyddu’r dôs yn raddol, nes nad oedd unrhyw wenwyn yn cael effaith arno.