Moel Cynghorion

mynydd (674m) yng Ngwynedd

Mae Moel Cynghorion neu Moel y Cynghorion yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Daw ei enw o'r hen air Cymraeg cynnor, sy'n golygu 'cyntaf' neu 'sylfaenol'; felly y foel cyntaf mewn golwg wrth nesau at yr Wyddfa.[1] Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, yr agosaf i gopa'r Wyddfa o gadwyn o fryniau; y lleill yw Foel Goch, Foel Gron, a Moel Eilio. Mae Bwlch Cwm Brwynog yn ei wahanu oddi wrth yr Wyddfa ei hun a Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth y copa nesaf, Foel Goch.

Moel Cynghorion
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr674 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0851°N 4.1127°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5861056395 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd176 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau. Un ffordd yw dilyn Llwybr Llyn Cwellyn tua chopa'r Wyddfa hyd at Fwlch Cwm Brwynog ac yna troi i'r chwith i ddilyn y llwybr i gopa Moel Cynghorion. Gellir hefyd ddringo Moel Eilio gyntaf a cherdded ar hyd y grib.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Iwan Arfon (1998). Enwau Eryri = Place-names in Snowdonia (arg. Arg. 1). Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 0-86243-374-6. OCLC 38591003.