Moeseg

astudiaeth athronyddol maes moesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw"

Astudiaeth athronyddol maes moesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg, a elwir weithiau yn athroniaeth moes.

Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda Groegiaid yr Henfyd a gwaith y Soffyddion fel Protagoras ac wedyn athronwyr mawr fel Socrates, Platon ac Aristotlys. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y Testament Newydd, datblygodd moeseg Gristnogol. Un o foesegwyr mawr yr Oesoedd Canol oedd Thomas Aquinas a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y dyletswydd i ufuddhau i ddeddfau Duw. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaith Thomas Hobbes, er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys Iwtilitariaeth, athroniaeth Immanuel Kant a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.

Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac amhleidioldeb, ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor a dilemâu sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.

Moeseg normadol golygu

Yn nhraddodiad y Gorllewin, gellir olrhain hanes moeseg ar y cyd ag enwau mawrion athroniaeth ers yr Henfyd. Trin athronwyr Groegaidd moeseg gan archwilio'r enaid, dedwyddwch a mwynhad. Socrates oedd yr arloeswr moesegol a ofynnodd, "sut y dylem fyw ein bywydau?" Gosododd ei ddisgybl Platon ddelfrydiaeth fetaffisegol yn sail i'w system foeseg. I raddau, mae moeseg y Gorllewin ers yr Henfyd yn dilyn y ddau lwybr a osodwyd gan Platon ac Aristotlys: y rhesymolwyr a'r empiryddion, y rhesymyddion (logicists) a'r pragmatwyr, a'r dadleuon a priori ac a posteriori.

Moeseg rhinweddau golygu

Datganodd Aristotlys, un o ddisgyblion Platon, taw eudaimonia (ffyniant neu fyd da) yw nod ein bywydau, a rhinwedd yw mam pob dedwydd. Argymhellod addysg foesol er mwyn meithrin y foeseg "iawn" gan y boblogaeth.

Parheir syniadaeth Aristotlys yn ddylanwadol ers mwy na dwy fil o flynyddoedd. Hyd heddiw, mae pryderon a chwestiynau'r hen Roegiaid yn tynnu sylw meddylwyr neo-Aristotelaidd: perthynolaeth ddiwylliannol, i ba raddau mae bioleg yn penderfynnu'r hawddfyd, yr angen am hyblygrwydd yn wyneb ffawd, a swyddogaethau a dyletswyddau'r unigolyn yn y gymuned.

Athrawiaethau crefyddol a diwinyddiaeth golygu

Datblygodd y tair dadl dros fodolaeth Duw: y ddadl ddibenyddol, y ddadl gosmolegol, a'r ddadl fodegol. Mae gan y ddadl ddibenyddol yn enwedig oblygiadau pwysig ym maes moeseg.

Un o'r prif anghydfodau ynghylch bodolaeth Duw yw problem drwg, sef esbonio pam bod drwg yn y byd os oes gan Dduw y gallu a'r ewyllus i'w atal. Dadleua anffyddwyr a gwrth-theistiaid bod presenoldeb drwg yn y byd yn groes i natur honedig Duw. Gofynnodd Epicwrws (neu o bosib Carneades) y trilema enwog a osodir gan David Hume fel y ganlyn: "Os nad yw Duw yn gallu atal drwg, yna nad yw'n hollalluog. Os nad yw Duw yn barod i atal drwg yna nad yw'n hollgaredig. Os yw Duw yn barod i atal drwg ac yn gallu gwneud hynny, yna paham bod drwg?" Ymhlith dadleuon y theistiaid i amddiffyn bodolaeth Duw yw bod drwg yn brawf gan Dduw, yn ganlyniad i'r rhyddid ewyllys a roddir inni gan Dduw, bod presenoldeb drwg yn angenrheidiol yn y byd os oes da i fodoli hefyd, neu bod dioddefaint yn brofiad anhepgor o iachawdwriaeth.

Ceisiodd y mathemategydd Blaise Pascal betio bob ffordd parthed y byd a ddaw: yn ôl cyngwystl Pascal, mae'n well i unigolyn addoli Duw rhag ofn mae'n bodoli. Beirniada'r defnydd hwn o ddamcaniaeth gemau am fod yn symleiddiad cul sy'n anwybyddu'r amrywiaeth eang o gredoau posib, ac am argymell "ffug-gred" sy'n ceisio twyllo Duw posib.

Cymhlethir natur y drafodaeth ymhellach gan ganfyddiadau anthropoleg grefyddol, sy'n awgrymu taw greddf ddynol yw mytholeg a chred, a'r hen broblem ynghylch iaith grefyddol. Mae gwrth-theistiaid yn gweld y syniad o Dduw ynddo'i hun yn anfoesol, ac yn dadlau hyd yn oed os yw Duw yn bodoli bydd yn well i beidio ag addoli'r fath "gormesydd dwyfol".

Dyletswyddeg golygu

Ystyriodd yr Almaenwr Immanuel Kant rhesymoledd a rheswm yn elfennau moeseg. Pwysleisiodd annibyniaeth ewyllys yr unigolyn, ac o hynny dadleuodd taw nod y gweithredydd sy'n pennu gwerth moesol y weithred.

Canlyniadaeth golygu

Tuedd foesegol sy'n canolbwyntio ar y diben, ac felly dyma'r prif os nid unig ystyriaeth wrth pennu gwerth foesol, yw canlyniadaeth. Defnyddiolaeth yw'r ddamcaniaeth ganlyniadol amlycaf. Gwelir ei gwreiddiau yn syniadaeth yr Epiciwriaid a gwaith Francis Hutcheson a Joseph Priestley. Gellir ei leoli yn rhan o'r traddodiad pleseryddol (neu hedonaidd). Jeremy Bentham a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, sy'n hyrwyddo'r lles cyffredin.

Dirfodaeth golygu

Yn yr 20g, ceisiodd athronwyr ddeall realiti drwy ffenomenoleg a'r ymwybod. Datblygodd y Ffrancod Sartre a de Beauvoir athroniaeth dirfodaeth, gan wrthod metaffiseg a chanolbwyntio ar fodolaeth person yn y byd sydd ohoni. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae'r unigolyn yn gyfrifol am effaith ei weithgareddau ar bobl eraill er mai dim ond ei fodolaeth ef ei hun sy'n "real" ac ef ei hun yw unig farnwr ei weithredau ei hun. Yn y bôn, ewyllys yr unigolyn ac nid ei reswm sy'n bwysig pan fo rhaid wynebu dewis, ac nid yw'r unigolyn yn bodoli ond i'w ewyllysio ei hun i weithredu.

Metafoeseg a moeseg ddadansoddol golygu

Maes uwchathronyddol a changen o athroniaeth ddadansoddol yw metafoeseg sy'n astudio natur damcaniaethau moesegol a cheisio diffinio moesoldeb. Tynna ar fetaffiseg, epistemoleg ac athroniaeth meddwl. Gofynna cwestiynau parthed ystyron y geiriau "da" ac "iawn", diffiniadau hanfodion moeseg megis gwerthoedd, gwrthrychau a phriodweddau, ffynonellau a seiliau gwerthoedd moesol, ac amodau a pherthnasedd egwyddorion moesol. Ymdrecha safbwyntiau metafoesegol i ddatrys y pynciau hyn drwy archwilio semanteg y disgwrs, ontoleg priodweddau moesol, arwyddocâd y ddadl anthropolegol, ystyriaethau seicolegol, a sut yr ydym yn caffael gwybodaeth am werthoedd moesol.[1]

Honna'r naturiolwyr a'r annaturiolwyr fel ei gilydd taw natur wybyddol sydd i iaith foesol, ond maent yn anghytuno ar sut y gallem caffael y wybodaeth hon. Gwada'r emosiynwyr bod mynegiadau moesol yn wybyddol, tra bo'r argymhellwyr yn dadlau taw cyfarwyddiadau neu waharddiadau yw barnau moesol, yn hytrach na datganiadau ffeithiol.[2]

Moeseg gymhwysol golygu

Anifeiliaid a'r amgylchedd golygu

Yn ôl y safbwynt dyn-ganolog, mae'n dderbyniol i fodau dynol defnyddio'r byd o'n cwmpas, gan gynnwys pethau byw, er lles ein hunain. Mae dehongliad iwtilitaraidd yn cyfiawnháu hyn yn arbennig os yw'n gwneud lles i gymdeithas oll: mae'r poen a wnaed yn anffodus ond yn angenrheidiol wrth ystyried y datblygiadau meddygol a ddaw wrth arbrofi ar anifeiliaid.

Dadleua rhai bod dyletswydd ar fodau dynol i warchod lles anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar foesoldeb dynol mewn perthynas ag anifeiliaid. Nid yw'r fath syniadau o reidrwydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid er lles y dynolryw (e.e. bwyta cig), ond yn galw am leiháu'r poen a achosir i anifeiliaid cymaint sy'n bosib. Yn ôl eraill, mae anifeiliaid yn berchen ar hawliau eu hunain, a chyhudda bodau dynol o ragfarn ac erledigaeth ar sail rhywogaeth.

Dadleua "moeseg werdd" o blaid lles neu hyd yn oed hawliau'r blaned a'r biota. Dywed bod dyletswydd gan fodau dynol i ofalu am ecoleg y Ddaear drwy gadwraeth amgylcheddol a chynaladwyedd yn ein cymdeithas.

Biofoeseg a moeseg feddygol golygu

Un o bynciau llosg y byd meddygol, sy'n tynnu ar syniadau crefyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol, yw erthyliad. Yn graidd i'r ddadl mae diffiniad persondod, man cychwyn bywyd, a hawliau'r fenyw. Dadleua'r garfan "o blaid bywyd" taw plentyn heb ei eni yw'r ffetws yn y groth, ac mae ei hawl i fywyd yn bwysicach na hawl y fam i ddewis erthygliad. Ar yr ochr arall, nid yw'r garfan "o blaid dewis" o'r farn taw person neu hyd yn oed bywyd yw'r ffetws, a hawliau'r fenyw yn unig sydd o bwys. Ceir amryw o safbwyntiau ar yr amrediad rhwng y ddwy ochr hon: mae nifer yn gweld erthyliad yn faes moesol ansicr, ac yn dadlau dros ddewis y lleiaf o ddau ddrwg. Mae eraill o blaid cadw erthyliad yn gyfreithlon ond yn cefnogi cyfyngiadau ar yr arfer, er enghraifft dim ond mewn achosion o drais neu losgach neu os bydd yr enedigaeth yn peryglu bywyd y fam.

Busnes a'r economi golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwleidyddiaeth a'r gyfraith golygu

Yn y system gyfiawnder, mae dadleuon dros bwrpas ac amcanion cosb yn rhemp. Ataliaeth yw'r nod yn ôl y llesyddwyr, sy'n defnyddio troseddwyr i rhybuddio eraill rhag troseddu; cymhelliad ychwanegol yw ailsefydlu'r cyn-droseddwr yn y gymuned. O'r safbwynt Kantaidd ad-daledigaeth yw pwrpas y system gosb: dylai'r drwgweithredwr dderbyn cosb haeddiannol am ei drosedd, dedfryd sy'n ei drin fel gweithredydd moesol yn hytrach na modd a gyfiawnheir gan y diben. Dadleua eraill o blaid adfer penyd i ystyr penydeg, a chael y drwgweithredwr i edifaru am ei drosedd yn ogystal â'i ailsefydlu er lles ei hun a'r gymuned.

Moeseg ddisgrifiadol golygu

Gwyddor empiraidd sy'n astudio ac yn cymharu credoau ac arferion moesol o wahanol ddiwylliannau, gwledydd, ac oesoedd yw moeseg ddisgrifiadol neu foeseg gymharol. Cyferbynnir moeseg ddisgrifiadol â moeseg normadol, ac ystyrir y gangen hon o foeseg yn un o wyddorau pur cymdeithas, megis anthropoleg a chymdeithaseg, yn hytrach na ffurf ar athroniaeth foesol, gan ei bod yn ymdrin â ffeithiau yn hytrach na dyfarniadau gwerth.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Kevin M. DeLapp. "Metaethics" yn yr Internet Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) metaethics. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2016.

Darllen pellach golygu

  • Ted Honderich (gol.), The Oxford Companion to Philosophy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995)