Prifddinas a dinas fwyaf Somalia yw Mogadishu (Somaleg: Muqdisho). Saif yn nhalaith Banaadir, ar lan Môr Arabia. Yn 1990, amcangyfrifwyd gan y Cenhedloedd Unedig fod y boblogaeth yn 1,200,000, tra mae eraill wedi amcangyfrif rhwng 2 a 3 miliwn.

Mogadishu
Mathdinas â phorthladd, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,120,000 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iIstanbul, Almaty, Ankara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBanaadir Edit this on Wikidata
GwladBaner Somalia Somalia
Arwynebedd91 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.0392°N 45.3419°E Edit this on Wikidata
Map

Y,hlith adeiladau hanesyddol Mogadishu mae mosg Fakr ad-Din (1269) a Phalas Garesa, o ddiwedd y 19g. Ceir prifysgol genedlaethol Somalia yn y ddinas, a'i maes awyr mwyaf. Ar 18 Hydref 1977, bu'r maes awyr yn y newyddion pan achubwyd 82 o deithwyr o awyren Lufthansa gan unedau arbennig o heddlu'r Almaen, wedi i'r awyren gael ei chipio a'i gorfodi i lanio ym Mogadishu.

Yn 2006 dechreuodd Rhyfel Somalia, a chipiwyd Mogadishu gan luoedd arfog Ethiopia. Ystyrir y ddinas yn un o'r dinasoedd peryclaf yn y byd.

Pobl enwog o Mogadishu golygu