Mae monomer (o'r Groeg mono "un" a meros "rhan") yn foleciwl bach sy'n cael ei fondio'n gemegol â monomerau eraill i ffurfio polymer. Y monomer mwyaf cyffredin, naturiol, ydy glwcos, sy'n cael ei gysylltu (drwy fondiau glycosig) â pholymerau megis seliwlos a starts; mae 76% o ddefnydd planhigion y byd wedi'i wneud ohono.

Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.