Cwmni rhyngwladol Americanaidd yw Monsanto, sy'n arbenigo ym maes biotechnoleg amaethyddol. Ef yw prif gynhyrchwr chwynladdwyr glyphosate y byd, sy'n marchnata ei gynnyrch gyda'r brand "Roundup". Monsanto hefyd yw prif gynhyrchwr had sydd wedi cael ei beiriannu'n genetig, maent yn dal 70%–100% o'r farchnad ar gyfer cnydau masnachol. Mae'r cwmni Agracetus, sy'n is-gwmni i Monsanto, yn cynhyrchu had ffa soia Roundup Ready ar gyfer y farchnad masnachol. Ym mis Mawrth 2005, prynodd y cwmni Seminis Inc, a ddaeth i fod y cwmni had confensiynol mwyaf y byd. Maent yn cyflogi dros 18,800 o bobl yn fyd-eang, ac roedd ganddynt gyllid blynyddol o USD$8.563 biliwn yn 2007.[1]

Monsanto
Math
corfforaeth amlieithog
Math o fusnes
cwmni cyd-stoc
ISINUS61166W1018
Diwydiantamaeth, biotechnoleg
Sefydlwyd1901
SefydlyddJohn Francis Queeny
Daeth i ben7 Mehefin 2018
PencadlysCreve Coeur, Missouri
Pobl allweddol
John Francis Queeny (Prif Weithredwr)
Cynnyrchhadau
Refeniw15,000,000,000 $ (UDA) (2015)
PerchnogionBayer
Nifer a gyflogir
25,500 (2015)
Rhiant-gwmni
Bayer
Is gwmni/au
Monsanto Canada
Lle ffurfioSt. Louis, Missouri
Gwefanhttps://monsanto.com/ Edit this on Wikidata

Mae datblygiad had sydd wedi ei beiriannu'n genetig a hormon twf gwartheg gan Monsanto, yn ogystal a'i ymarferion ymosodol o ymgyfreithio a lobïo gwleidyddol, wedi gwneud y cwmni'n ddadleuol yn fyd eang ac yn darged ar gyfer ymgyrchwyr y mudiad gwrth-globaleiddio ac ymgyrchwyr amgylcheddol, ond mae technoleg had Roundup Ready wedi galluogi ffermwyr i dyfu cnydau heb orfod trin y tir, ac mae Cotwm Bollgard wedi lleihau defnydd chwynladdwyr ar gaeau cotwm o tua 80%.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Google Finance: Monsanto Company