Mont Blanc (Ffrangeg am Mynydd Gwyn) yw'r mynydd uchaf yn yr Alpau a'r uchaf yng ngorllewin Ewrop. (Yr uchaf yn Ewrop yw Elbrus sy'n 5,642 m.) Ei enw Eidaleg yw Monte Bianco.

Mont Blanc
Mathmynydd, copa, pwynt uchaf, pyramidal peak, ultra-prominent peak Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Saith Pegwn, Q104628567, y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal Edit this on Wikidata
SirChamonix, Saint-Gervais-les-Bains, Courmayeur Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr4,805.59 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.8328°N 6.865°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMont Blanc massif Edit this on Wikidata
Map
Deunyddgwenithfaen, gneiss Edit this on Wikidata

Saif Mont Blanc ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, ac mae cryn dipyn o ddadlau wedi bod ynglŷn â lleoliad y ffin ac ym mha wlad mae'r copa. Mae mapiau o Ffrainc yn tueddu i ddangos y copa yn Ffrainc, tra mae mapiau o'r Eidal yn dangos y ffin yn rhedeg dros y copa.

Mae union uchder y mynydd ym medru amrywio, oherwydd fod dyfnder o tua 10 - 15 medr o rew ac eira ar y copa. Mae mesuriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn amrywio rhwng 4,807 a 4,810 medr. Y ddwy dref bwysicaf wrth droed y mynydd yw Chamonix yn Haute-Savoie yn Ffrainc, a Courmayeur yn yr Eidal. Mae twnnel 11 km dan y mynydd yn uno Ffrainc a'r Eidal.

Dechreuwyd yr ymdrechion i gyrraedd y copa gan Horace-Benedict de Sausure, a gynigiodd swm sylweddol o arian yn 1760 i unrhyw un a allai ddarganfod llwybr i'r copa. Yn 1786 dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan Jacques Balmat a Michel Paccard. Flwyddyn yn ddiweddarach gallodd de Sausure gyrraedd y copa ei hun.

Mae'r mynydd yn gyrchfan boblogaidd dros ben i dwristiaid, yn enwedig ar ochr Ffrainc. Daw llawer ohonynt i sgio ar lethrau'r mynydd, ond mae cryn nifer yn ei ddringo bob blwyddyn. Nid yw'n fynydd arbennig o anodd yn dechnegol, ond mae'r uchder a'r oerni yn creu problemau, a bob blwyddyn mae cannoedd o ddamweiniau difrifol ar Mont Blanc a'r mynyddoedd o'i gwmpas.