Morfa Rhuddlan

morfa yn ardal Rhuddlan

Morfa o dir isel gwlyb i'r gorllewin o dref Rhuddlan ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Morfa Rhuddlan (cyfeiriad grid SH9778). Mae'r rhan fwyaf o'r morfa yn gorwedd yn sir Conwy heddiw gyda rhan yn Sir Ddinbych.

Morfa Rhuddlan
Mathmorfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhuddlan Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.29008°N 3.55048°W Edit this on Wikidata
Map
Ffos ar ran o Forfa Rhuddlan

Mae'r trefi a phentrefi o gwmpas Morfa Rhuddlan yn cynnwys Abergele, Pensarn, Towyn, Bae Cinmel a Bodelwyddan. Gorwedd Afon Clwyd rhwng Morfa Rhuddlan a thref Rhuddlan ei hun. Llifa Afon Gele drwy'r morfa o gyfeiriad Abergele i ymuno ag Afon Clwyd i'r de o Fae Cinmel.

Brwydr Morfa Rhuddlan golygu

Mae Morfa Rhuddlan yn adnabyddus yn hanes Cymru fel safle Brwydr Morfa Rhuddlan yn y flwyddyn 796, rhwng gwŷr Gwynedd dan arweiniad y brenin Caradog ap Meirion a gwŷr Mersia dan arweiniad Offa. Fe'i cofnodir yn yr Annales Cambriae. Fe'i cofir hyd heddiw fel cyflafan fawr. Daeth yn destun sawl awdl eisteddfodol yn y 19g a cheir tôn 'Morfa Rhuddlan'.

Llifogydd golygu

Yn fwy diweddar mae'r morfa wedi dod yn enwog am y llifogydd, yn enwedig yn Nhywyn yn yr 1990au pan orlifiodd y môr dros y morglawdd. Cafodd nifer o fyngalos eu codi ar ogledd y morfa yn negawdau olaf yr 20g, a hynny er gwaethaf tystiolaeth yr enwau lleol am wlybder y tir, e.e. Ffarm y Gors, Glan-y-Gors.

Cyfeiriadau golygu