Morfil Pengrwn
Llun y rhywogaeth
Map
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamal
Urdd: Cetartiodactyla
Teulu: Delphinidae
Genws: Globicephala
Enw deuenwol
Globicephala melas
(Traill 1809)

Mamal sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Delphinidae ydy'r morfil pengrwn sy'n enw gwrywaidd; lluosog: morfilod pengrwn (Lladin: Globicephala melas; Saesneg: Long-finned pilot whale).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Awstralia, Cefnfor yr Iwerydda'r Cefnfor Tawel ac ar adegau mae i'w ganfod ger arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Diffyg Data' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Hanes yng Nghymru golygu

  • Un o'r tiriadau mwyaf ar gofnod yng Nghymru oedd pod o forfilod pengrwn yng Nghonwy yng nghanol yr Ail Ryfel Byd:
    About the time of the D-Day landings [6 Meh 1944] many dead pilot whales were washed ashore in the Conway estuary. One morning as he was going to Dr Garretts home, Mr Thomas saw a dead whale near the house.....[2]

Cofnodion unigol golygu

  • Corff y morfil pengrwn (neu morfil du, y long-finned pilot whale), Globicephala melaena wedi ei dirio ar draeth Llandanwg Rhagfyr 2009. Ystyr Globicephala yw 'pen crwn' , oherwydd fod gan y morfil ben crwn fel pêl. Ystyr melaena yw 'du' - dyma liw croen yr anifail. Un o deulu'r dolffiniaid ydyw, er mai morfil yw'r enw cyffredin arno.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  2. Steffan ab Owain: North Wales Weekly News 8 Tach 1956
  3. Sion Roberts, Bwletin Llên Natur rhif 24