Morgan John Rhys

gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd Morgan John Rhys, neu Rhees (8 Rhagfyr 17607 Rhagfyr 1804). Roedd hefyd yn bropagandydd enwog dros ryddid, gan groesawu'r Chwyldro Ffrengig, ac yr oedd yn pregethu yn erbyn caethwasiaeth. Cafodd ei eni yn Llanbradach, Caerffili.

Morgan John Rhys
Ganwyd8 Rhagfyr 1760 Edit this on Wikidata
Llanbradach Edit this on Wikidata
Bu farw7 Rhagfyr 1804 Edit this on Wikidata
Somerset Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, gweinidog yr Efengyl, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
PlantElizabeth Jones Murray Edit this on Wikidata
Cylchgrawn cyffredinol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi erthyglau crefyddol, gwleidyddol a hanesyddol, ynghyd â barddoniaeth, bywgraffiadau a newyddion. Mae hefyd yn nodweddiadol am erthyglau ar gaethwasiaeth a'r Chwyldro Ffrengig. Yn wreiddiol yn gylchgrawn chwarterol daeth yn un daufisol yn 1794. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog ac awdur, Morgan John Rhys (Morgan ab Ioan Rhus, 1760-1804) gyda'r bardd a llenor, David Thomas, (Dafydd Ddu Eryri, 1759-1822) yn gyfrannwr amlwg.

Yn 1794 ymfudodd i America wedi cael ei siomi gan yr ymateb i radicaliaeth Prydain. Roedd mewn perygl o gael ei arestio am ei feirniadaeth ar y llywodraeth yn ei erthyglau yn Y Cylchgrawn Cynmraeg [sic], y cyfnodolyn a ddechreuodd yn Nhrefeca yn yr un flwyddyn.

Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu gwladfa Gymreig yng ngorllewin Pennsylvania. Rhoddodd yr enw 'Cambria' ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, The Western Sky. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r brodorion Americanaidd.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. J. Evans, Morgan John Rhys a'i Amserau (1935)
  • Gwyn Alf Williams, The Search for Beulah Land (1980)
  • E. Wyn James,"'Seren Wib Olau': Gweledigaeth a Chenhadaeth Morgan John Rhys (1760-1804)", Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr (2007), tt.5-37
  • E. Wyn James, "Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd", yn Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid, gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.