Morgan Owen

Esgob
Am y bardd o Ferthyr, gweler Morgan Owen (bardd a llenor)

Clerigwr o Gymro a ddaeth yn Esgob Llandaf oedd Morgan Owen (1583Ionawr 1645). Roedd yn frodor o blwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin.

Morgan Owen
Ganwyd1585 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Myddfai Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1645 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater

Bywgraffiad golygu

Astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, o 1608 hyd 1616, gan ennill gradd BA ac MA. Tyfodd gyfeillgarwch rhyngddo a William Laud (Archesgob Caergaint yn ddiweddarach) a phan ddaeth Laud yn esgob Tyddewi penododd Owen yn gaplan iddo.

Cafodd Morgan Owen ei benodi'n esgob Llandaf yn 1639, ond roedd ymhlith yr esgobion a gafodd eu carcharu am gefnogi'r Archesgob Laud ym 1644. Cafodd ei ddiarddel o'i swydd gan y Piwritaniaid oherwydd ei gydymdeimlad â Laud a hefyd am iddo godi porth arddull baróc yn Eglwys y Santes Fair Prifysgol Rhydychen, ynghyd â cherflun "Pabaidd" o'r Forwyn Fair a'r Baban Iesu.

Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys plwyf ei Fyddfai enedigol.

Cyfeiriadau golygu