Crefydd a ddechreuodd yn Unol Daleithiau America yn 1831, ar ôl i Joseph Smith, Jr. honni iddo gael datguddiad oddi wrth Dduw yw Mormoniaeth. Mae gan yr eglwys Formonaidd mwy na 11 miliwn o aelodau.

Y mwyaf o'r enwadau Mormonaidd yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.

Cysylltiadau Cymreig golygu

Mae gan y Mormoniaid gysylltiadau hanesyddol cryf â Chymru, yn enwedig y de. Bu cenhadon Mormonaidd yn weithgar yng Nghymru yn y 1840au a'r 1850au, a throdd miloedd o bobl i'r grefydd newydd. Ymfudodd nifer ohonyn nhw i America, ac aeth cyfran sylweddol o'r ymfudwyr hynny ar y Symudiad mawr i'r Gorllewin gyda Brigham Young, a ddechreuodd yn 1847. Ymsefydlodd y Cymry gyda'r Mormoniaid eraill yn Utah, a dywedir fod tua 20% o boblogaeth y dalaith honno o dras Cymreig heddiw.[1]

Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a llyfr yn y Gymraeg gan y Mormoniaid yn y 19g, yn cynnwys Utgorn Seion. Daniel Jones (Mormon) (g. 4 Awst 1811) o Abergele oedd un o'u harweinwyr. Wedi iddo ymfudo i America troes Daniel Jones yn Formon wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal. Roedd gyda Joseph Smith ar y 26 Mehefin 1844 lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan a chyhoeddi yno gyfnodolyn misol, Prophwyd y Jubili. Hwyliodd o Lerpwl ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn gapten cwch ar lyn Great Salt. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.

Cyfeiriadau golygu

  1. "welshmormonhistory.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-27. Cyrchwyd 2009-06-16.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.