Morris Williams (Nicander)

bardd

Bardd, emynydd a chyfieithydd oedd Morris Williams, a adnabyddir yn well dan ei enw barddol Nicander (20 Awst 18093 Ionawr 1874). Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghoed Cae Bach, ym mhlwyf Llangybi, Eifionydd, yn yr hen Sir Gaernarfon.

Morris Williams
FfugenwNicander Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Awst 1809 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1874 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, clerig Edit this on Wikidata
Erthygl am y bardd Cymraeg Nicander yw hon. Am enghreifftiau eraill o'r enw personol Nicander, gweler Nicander (gwahaniaethu). Am bobl eraill o'r enw Morris Williams, gweler Morris Williams (gwahaniaethu).

Plentyndod ac addysg golygu

 
Clawr darluniedig "Chwedlau Esop ar Gân" gan Nicander

Cafodd ei addysg gynnar yn Llanystumdwy ac ar ôl gorffen yn yr ysgol aeth yn brentis i saer coed lleol.

Tynnodd ei ddawn farddonol sylw'r beirdd Dewi Wyn o Eifion ac Ieuan Glan Geirionydd. Diolch i'w caredigrwydd cafodd orffen ei addysg yn Ysgol y Brenin, yng Nghaer. Oddi yno aeth i Coleg Yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd a BA yn 1835 ac MA yn 1838. Aeth yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru y flwyddyn ganlynol a gwasanaethodd ynddi am weddill ei oes, yn Nhreffynnon a Bangor i ddechrau ac wedyn yn rheithor Llanrhyddlad, Môn yn 1858, lle bu farw yn 1874.

Y llenor golygu

Cofir Nicander yn bennaf am ei gymwynas wrth gyfieithu - neu'n hytrach addasu - nifer o moeschwedlau La Fontaine o'r Ffrangeg i'r Gymraeg. Cawsant eu cyhoeddi yn gyntaf o dro i dro yn Y Traethodydd a'r Cymro; yna cyhoeddwyd hwy yn eu ffurf ddiwygiedig a therfynnol yn Yr Haul o'r flwyddyn 1868 hyd 1874. Cyhoeddodd W. Glynn Williams, mab Nicander, destun diwygiedig yn 1901, dan y teitl camarweiniol braidd Damhegion Esop ar Gân.

Enillodd Nicander y Gadair yn Eisteddfod Aberffraw yn 1849 am ei awdl Y Greadigaeth (bu helynt am fod un o'r beirniaid, Eben Fardd, eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan William Ambrose (Emrys)).

Mae ei waith crefyddol yn cynnwys addasiad mydryddol newydd o'r Salmau (1850). Derbyniodd y gyfrol hon glod gan Thomas Parry, a ddywedodd ei bod yn un o gynhyrchion mwyaf llwyddiannus y 19 ganrif. Ysgrifennodd nifer fawr o emynau ond yn llyfrau emynau yr Eglwys yng Nghymru y cawsant eu cyhoeddi yn bennaf. 'Emynydd enwad' ydoedd yn ôl Bedwyr Lewis Jones.

Llyfryddiaeth golygu

  • Y Flwyddyn Eglwysig (1843)
  • Llyfr yr Homiliau (1847)
  • Y Psallwyr (1850)
  • Damhegion Esop ar Gân (Jarvis a Foster, Bangor, 1901). Golygiad ei fab o'i addasiad o chwedlau La Fontaine (sydd yn eu tro wedi'u haddasu o waith Esop).
  • Chwedlau Esop ar Gân (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1959). Detholiad yn y gyfres "Clasuron y Plant", gyda darluniau gan Euros Edwards.
  • Bedwyr Lewis Jones, 'Nicander yr Emynydd', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Cyfrol 1 rhif 7, Gorffennaf 1974, 20-25
  • Thomas Parry, 'Emynwyr Eifionydd', Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, Cyfrol 1 rhif 9, 245-257