Morys Clynnog

awdur a diwinydd Catholig

Roedd Morys Clynnog (neu Morys ab Ifan, c. 1525 - 1581) yn offeiriad Catholig ac yn ddiwinydd gyda'r pwysicaf ymhlith y Gwrthddiwygwyr Cymreig.

Morys Clynnog
Ganwyd1525 Edit this on Wikidata
Clynnog Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw1581 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Catholig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae'n debyg iddo gael ei eni yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio ym 1548. Bu'n gaplan i'r Cardinal Reginald Pole am gyfnod. Fe'i penodwyd yn Esgob Bangor ar farwolaeth William Glyn ym 1558, ond cyn iddo gael ei gysegru bu farw'r Frenhines Mari I o Loegr. Nid oedd Morys Clynnog yn barod i gydnabod awdurdod y frenhines newydd, Elizabeth I, mewn materion crefyddol; fe aeth i'r cyfandir yng nghwmni ei nai, Gruffydd Robert, ac ymgartrefu yn Rhufain.

Gwnaed Morys Clynnog yn warden yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain ym 1577, a phan sefydlwyd Athrofa Gatholig yno y flwyddyn ddilynol gan Owen Lewis a William Allen, dewiswyd Morys Clynnog i fod yn rheithor arno. Bu raid iddo ymddeol o'r swydd hon ym 1579 wedi i'r myfyrwyr Seisnig gwyno ei fod yn ffafrio'r Cymry.

Credir iddo foddi yn gynnar ym 1581 yn ystod mordaith o Ffrainc yn ôl i Brydain.

Yr Athravaeth Gristnogavl a'r Dosparth Byrr golygu

 
Clawr Athravaeth Gristnogavll argraffwyd ym Milan (1568).

Ym 1568, ym Milan, fe argraffwyd yr Athravaeth Gristnogavl ('Athrawaeth Gristnogawl'), sef catecism byr, gyda'r rhagymadrodd wedi ei ysgrifennu gan Gruffydd Robert. Ni wybuwyd dim o'r llyfr hwn hyd nes i Louis Lucien Bonaparte, nai i Napoleon I, Ymerawdwr Ffrainc, gyhoeddi fod copi yn ei feddiant yr oedd ef wedi ei brynu ym Mharis. Louis Lucien hefyd a drawslythrennodd y gwaith ar gyfer Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a chaniatáu iddynt ei gyhoeddi ym 1880.[1] Mae'r ddwy ran gyntaf o ramadeg Gruffydd Robert, Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg yn arfer ffurf ymgom mewn gwinllan rhwng Gr. (sef Gruffydd Robert ei hun) a Mo. (Morys Clynnog).

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2014