Mosgito
Amrediad amseryddol: 226–0 Miliwn o fl. CP
Jurasig - Presennol
Benyw Culiseta longiareolata
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Diptera
Is-urdd: Nematocera
Inffra-urdd: Culicomorpha
Uwchdeulu: Culicoidea
Teulu: Culicidae
Meigen, 1818 [1]
Isdeuluoedd
  • Anophelinae
  • Culicinae

Pryfed bychan o deulu'r Culicidae yw mosgitos. Mae ganddynt adenydd cennog, corff main a chwech coes hir. Mae'r gwrywod yn bwydo ar neithdar yn unig ond, mewn llawer o rywogaethau, mae'r benywod yn ectoparasit sy'n bwydo ar waed hefyd, drwy ddefnyddio rhan o'u gec sydd wedi'i ffurfio'n diwb hir. Drwy sugno gwaed a theithio o un anifail i'r llall mae benyw miloedd o rywogaethau'n trosglwyddo clefydau megis malaria, y feirws Zika, gwibgymalwst a'r dwymyn felen ond ceir rhai ohonyn nhw sy'n gwbwl ddiniwed. Mae rhai awdurdodau'n dadlau mai'r mosgito ydy'r anifail mwyaf peryglus i ddyn ar y blaned.[2][3][4][5]

Ceir dros 3,500 rhywogaeth ledled y byd[6][7] a gwnant niwed i filiynau o bobl yn flynyddol.[8][9] Mae gwaed amrywiaeth eang o anifeiliaid yn cael eu sugno ganddynt, gan gynnwys: fertebratau (gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid a rhai mathau o bysgod.

Tarddiad y gair ydy mosca ac ito, sef y Sbaeneg am "bry bychan".[10]

Mae cylch bywyd y mosgito yn cynnwys y cyfnodau canlynol: wy, larfa, chwiler ac oedolyn. Rhoddir yr wyau ar wyneb y dŵr a chant eu deor yn larfa symudol, sy'n bwydo ar algâu dyfrol a deunydd organig. Mae'r larfau hyn yn ffynonell fwyd bwysig i lawer o anifeiliaid dŵr croyw, fel nymffau gweision neidr, llawer o bysgod, a rhai adar fel hwyaid.[11] Mae gan fenywod llawndwf y rhan fwyaf o rywogaethau rannau ceg tebyg i diwb a elwir yn sugnydd (proboscis) a all dyllu croen gwesteiwr a bwydo ar waed sy'n cynnwys protein a haearn sydd eu hangen i gynhyrchu wyau.

Mae miloedd o rywogaethau o fosgitos sy'n sugno gwaed amrywiol fertebratiaid, a elwir yn "lletywyr" (hosts), gan gynwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid, a rhai pysgod ynghyd â rhai infertebratau, yn bennaf arthropodau eraill.

Mae poer y mosgito'n cael ei drosglwyddo i'r organeb letyol yn ystod y brathiad, a gall achosi rash. Yn ogystal, gall llawer o rywogaethau lyncu pathogenau wrth frathu, a'u trosglwyddo i letywyr (hosts) eraill. Yn y modd hwn, mae mosgitos yn fectorau (carwyr afiechyd) pwysig o glefydau parasitig megis malaria a filariasis, a chlefydau arbofirol fel y dwymyn felen, Chikungunya, twymyn Gorllewin Nîl, twymyn dengue, a Zika.

Trwy drosglwyddo clefydau, mae mosgitos yn achosi mwy o farwolaethau (o bobl) nag unrhyw dacson o anifeiliaid arall: dros 700,000 bob blwyddyn.[2][12] Honnir bod bron i hanner y bobl sydd erioed wedi byw wedi marw o glefyd fector-mosgito,[13] ond mae’r honiad hwn yn destun dadl, gydag amcangyfrifon mwy ceidwadol yn gosod y nifer o farwolaeth yn nes at 5% o’r holl fodau dynol. 

Ni all mosgitos fyw na gweithredu'n iawn pan fo tymheredd yr aer yn is na 10 gradd Canradd (50 Fahrenheit). Maent yn weithredol yn bennaf ar 15-25 gradd Canradd.[14]

Taconomeg ac esblygiad golygu

 
Pen mosgito

Canfuwyd mosigito gydag anatomeg digon tebyg i'r math a geir heddiw mewn gwefr (neu 'ambr') 79-miliwn o flynyddoedd oed (y cyfnod Cretasaidd), yng Nghanada.[15] Yn Myanmar, canfuwyd perthynas hŷn - 90-100-miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[16] Ychydig iawn o newid a fu ym morffoleg y mosgito dros y milenias, yn enwedig o gymharu'r rhywogaetha presennol gyda'r rhai a oedd yn byw 46-miliwn o flynyddoedd CP.[17] Ffosiliau o fosgitos yw'r rhai hynaf i gynnwys tystiolaeth o waed yn yr abdomen.[18][19] Er na ddarganfuwyd ffosiliau o fosgitos a oedd yn byw cyn y cyfnod Cretasaidd, dengys ymchwil gwyddonol diweddar iddynt wahanu o fathau eraill oddeutu 226-miliwn o flynyddoedd CP.[20]

Teulu golygu

Mae mosgitos yn aelodau o deulu o bryfed nematoceraidd a elwir yn Culicidae (o'r Lladin culex, culicis, sy'n golygu "gwybedyn" neu "bryf bychan").[21] Gallant edrych yn eitha tebyg i bryfed teiliwr (sef teulu'r Tipulidae) a phryfed cironomid (teulu Chironomidae).

Is-deuluoedd golygu

Genera golygu

Mae mosgitos wedi'u dosbarthu i 112 genera. Yn eu plith mae'r canlynol:

Rhywogaeth golygu

Mae dros 3,500 o rywogaethau o fosgitos wedi cael eu disgrifio hyd yma (2022) yn y llenyddiaeth wyddonol.

Morffoleg golygu

Fel pryfed go iawn, mae gan fosgitos un pâr o adenydd, gyda chen amlwg ar yr wyneb. Mae eu hadenydd yn hir ac yn gul, fel y mae eu coesau'n hir ac yn denau. Mae ganddyn nhw gyrff main o tua 3-6 mm, gyda lliw tywyll - o lwyd i ddu. Mae gan rai rhywogaethau batrymau morffolegol penodol. Pan fyddant yn gorffwys maent yn tueddu i ddal eu pâr cyntaf o goesau allan. Maent yn debyg o ran ymddangosiad i wybed (Chironomidae), teulu hynafol arall o bryfed. Mae Tokunagayusurika akamusi, er enghraifft, yn wybedyn sy'n edrych yn debyg iawn i fosgito yn yr ystyr bod ganddyn nhw hefyd gyrff main, hir a lliwiau tebyg, er eu bod yn fwy o ran maint. Dim ond un pâr o adenydd sydd ganddyn nhw hefyd, ac heb gen arnyn nhw. Nodwedd amlwg arall i wahaniaethu rhyngddyn nhw yw'r ffordd y maent yn dal eu pâr cyntaf o goesau - mae mosgitos yn eu dal tuag allan, tra bod gwybed yn eu dal ymlaen.[22]

Cylch bywyd golygu

 
Delwedd o fosgito Wyeomyia smithii, gan ddangos segmentau ac anatomeg rhannol y system gylchredol

Trosolwg golygu

Fel pob pryfyn dan haul, mae mosgitos yn mynd trwy bedwar cam yn eu cylchoedd bywyd: wy, larfa, chwiler, ac oedolyn neu imago. Mae'r tri cham cyntaf - wy, larfa, a chwiler - yn ddyfrol fel arfer. Mae pob un o'r camau'n para 5 i 14 diwrnod, yn dibynnu ar y rhywogaeth a'r tymheredd amgylchynol, ond mae yna eithriadau pwysig.[23] Mae mosgitos sy'n byw mewn ardaloedd lle mae rhai tymhorau'n rhewi neu heb ddŵr yn treulio rhan o'r flwyddyn mewn cyflwt o seibiant (saibgwsg), heb fawr o weithgaredd; maent yn gohirio eu datblygiad yn debyg i'r gaeafgysgwyr, fel arfer am fisoedd, ac yn parhau â bywyd dim ond pan fydd digon o ddŵr neu gynhesrwydd ar eu cyfer. Er enghraifft, mae larfau'r Wyeomyia fel arfer yn cael eu rhewi yn lympiau solet o iâ yn ystod y gaeaf ac yn cwblhau eu datblygiad yn y gwanwyn yn unig. Mae wyau rhai rhywogaethau o Aedes yn aros yn ddianaf mewn saibgwsg os ydynt yn sychu, ac yn deor yn ddiweddarach pan fyddant wedi'u gorchuddio â dŵr.

Mae wyau'n deor i droi'n larfa, sy'n tyfu nes eu bod yn gallu newid yn chwiler. Mae'r mosgito llawn dwf yn dod allan o'r chwiler aeddfed wrth iddo arnofio ar wyneb y dŵr. Mae einioes mosgitos sy'n sugno gwaed, yn dibynnu ar eu rhywogaethau, eu rhyw, a'r tywydd, yn amrywio o wythnos i gyhyd â sawl mis.[24][25]

Bridio golygu

Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae oedolion benyw yn dodwy eu hwyau mewn dŵr llonydd: mae rhai yn gorwedd ger ymyl y dŵr tra bod eraill yn dodwy eu hwyau ar blanhigion dyfrol. Mae pob rhywogaeth yn dewis lleoliad y dŵr y mae'n dodwy ei wyau iddo ac yn gwneud hynny yn ôl ei addasiadau ecolegol unigryw. Gwelir rhai'n bridio mewn llynnoedd, rhai mewn pyllau dros dro ac eraill yn bridio mewn corsydd neu ger aberoedd. Ceir rhai'n bridio mewn dŵr hallt (fel Opifex fuscus), ac mae eraill yr un mor gartrefol mewn dŵr croyw.[26] Mae gwahaniaethau o'r fath yn bwysig oherwydd bod rhai dewisiadau ecolegol yn cadw mosgitos i ffwrdd oddi wrth y mwyafrif o bobl, tra bod dewisiadau eraill yn dod â nhw i mewn i dai gyda'r nos.

Mae'n well gan rai rhywogaethau o fosgitos fridio mewn diferion o ddŵr ar blanhigion fel dŵr glaw wedi'i gronni mewn tyllau mewn boncyffion coed. Mae rhai'n arbenigo yn yr hylif mewn piserau o rywogaethau arbennig o deulu'r Bromeliaceae (planhigion y piser?), gyda'u larfa'n bwydo ar bryfed pydredig a oedd wedi boddi yno neu ar y bacteria cysylltiedig; mae'r genws Wyeomyia yn llawn o enghreifftiau o'r fath — dim ond yng ngheudod y Sarracenia purpurea y mae'r Wyeomyia smithii diniwed yn bridio.

Wyau a dodwy golygu

 
Micrograff electron o wy mosgito

Mae arferion dodwy'r mosgito yn amrywio'n sylweddol rhwng rhywogaethau, ac mae morffoleg yr wyau'n amrywio. Y drefn symlaf yw yr hon a ddilynir gan lawer o rywogaethau o'r genws Anopheles; fel llawer o rywogaethau main a syml eraill o bryfed dyfrol, mae benywod yn hedfan dros y dŵr, yn bobio i fyny ac i lawr wyneb y dŵr ac yn gollwng wyau'n unigol. Mae'r ymddygiad bobio yma'n digwydd ymhlith rhai pryfed dyfrol eraill hefyd, er enghraifft gwybed Mai a gweision neidr. Mae wyau rhywogaethau o Anopheles yn fras yn eitha tebug i siâp sigâr ac mae ganddyn nhw arnofion i lawr eu hochrau. Gall benywod sawl rhywogaethau ddodwy 100-200 o wyau yn ystod y cyfnod y maen nhw'n oedolion. Hyd yn oed gyda marwolaethau uchel dros gyfnod o sawl wythnos, gall un pâr greu poblogaeth o filoedd o fosgitos.

Mewn rhywogaethau sy'n dodwy eu hwyau mewn rafftiau, nid yw rafftiau'n ffurfio'n ddamweiniol; mae'r fenyw Culex yn setlo'n ofalus ar ddŵr llonydd gyda'i choesau ôl wedi'u croesi, ac wrth iddi ddodwy'r wyau fesul un, mae'n plycio i'w trefnu'n rhesi ar ben-i-lawr sy'n glynu at ei gilydd i ffurfio'r rafft.[27]

Larfa golygu

Mae gan larfa'r mosgito ben gyda brwshys ceg a ddefnyddir ar gyfer bwydo, thoracs mawr heb goesau, ac abdomen segmentiedig.

Drwy sbigoglau mae'r larfa'n anadlu, ac mae'r rhain wedi'u lleoli ar eu hwythfed segment abdomenol, neu drwy seiffon, felly mae'n rhaid iddynt ddod i'r wyneb yn aml. Treulia'r rhan fwyaf o'i amser yn bwydo ar algau, bacteria a microbau eraill ar yr arwyneb .

Arsylwyd mewn arbrofion fod rhywogaethau fel Bezzia nobilis o fewn y teulu Ceratopogonidae yn ysglyfaethu ar larfa mosgitos.[28][29]

Maent yn plymio o dan yr wyneb pan fydd rhywbeth yn tarfu arnynt. Gallant nofio naill ai drwy yriad (propulsion) drwy ddefnyddio brwsys y ceg, neu drwy symudiadau herciog o'u cyrff cyfan, gan roi llysenw "Waiglars" arnyn nhw.

Mae larfa'n datblygu trwy bedwar cam, neu gyfnod, ac ar ôl hynny maent yn trawsnewid yn chwileriaid. Ar ddiwedd pob cam, mae'r larfa'n bwrw eu croen, er mwyn cael lle i dyfu ymhellach.

Pwpa golygu

O'r ochr, mae'r chwiler mosgito'n siâp coma. Mae'r pen a'r thoracs yn uno yn y cephalothorax, gyda'r abdomen yn troi oddi tano. Gall y chwiler nofio'n egnïol trwy fflipio ei abdomen. Yn yr un modd â'r larfa, mae'n rhaid i chwiler y rhan fwyaf o rywogaethau ddod i'r wyneb yn aml i anadlu, a gwnânt hynny trwy bâr o utgyrn anadlol ar y cephalothorax. Nid ydynt yn bwydo'n ystod y cam hwn; yn nodweddiadol maent yn treulio eu hamser yn hongian o wyneb y dŵr. Os cânt eu dychryn, ee gan gysgod rhyw anifail, maent yn nofio'n gyflym i lawr trwy fflipio eu abdomenau yn yr un ffordd â'r larfa. Os na fydd neb yn tarfu arnynt, buan y byddan nhw'n arnofio i fyny eto.

Oedolyn golygu

Mae'r cyfnod datblygu o wy i oedolyn yn amrywio ymhlith rhywogaethau ac mae'r tymheredd amgylchynol yn dylanwadu'n gryf arno. Gall rhai rhywogaethau o fosgitos ddatblygu o wy i oedolion mewn cyn lleied â phum niwrnod, ond fel arfer, mewn amodau trofannol, mae'n cymryd tua 40 diwrnod neu fwy. Mae'r amrywiad ym maint y corff mewn mosgitos llawndwf yn dibynnu ar ddwysedd poblogaeth y larfa a'r cyflenwad bwyd o fewn y dŵr lle cawsant eu magu.

Mae mosgitos llawndwf fel arfer yn paru o fewn ychydig ddyddiau ar ôl dod allan o'r cyfnod pwpal. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae torf enfawr o'r gwrywod yn heidio, fel arfer o gwmpas y cyfnos, ac mae'r benywod yn hedfan i'r heidiau i baru.

Rhwng 5-7 diwrnod yw hyd einioes y gwryw, gan fwydo ar neithdar a ffynonellau eraill o siwgr. Ar ôl cael pryd o waed, bydd y fenyw yn gorffwys am ychydig ddyddiau tra bod y gwaed yn cael ei dreulio ac wyau'n cael eu datblygu. Mae'r broses hon yn dibynnu ar y tymheredd, ond fel arfer mae'n cymryd dau i dri diwrnod mewn amodau trofannol. Unwaith y bydd yr wyau wedi datblygu'n llawn, mae'r fenyw yn eu dodwy ac yn ailddechrau chwilio am letywr.

Mae'r cylch yn ailadrodd ei hun nes bod y fenyw yn marw. Er y gall benywod fyw mwy na mis mewn caethiwed, nid yw'r rhan fwyaf yn byw'n hirach na rhyw wythnos i bythefnos yn y gwyllt. Mae eu hoes yn dibynnu ar dymheredd, lleithder, a'u gallu i gael pryd o waed yn llwyddiannus a'r un pryd yn ceisio ysglyfaethwyr.

Hyd cyfartalog yr oedolyn yw 3 - 6 mm. Hyd y mosgitos lleiaf yw tua 2mm ac mae'r mwyaf tua 19 mm.[30] Mae mosgitos fel arfer yn pwyso tua 5 mg. Mae gan bob mosgito gyrff main gyda thair segment: pen, thoracs ac abdomen.

Mae'r pen yn arbenigo mewn derbyn gwybodaeth synhwyraidd ac ar gyfer bwydo. Mae ganddo lygaid a phâr o deimlyddion hir, mewn sawl segment. Defnyddir y teimlyddion ar gyfer canfod arogleuon lletywr (host), yn ogystal ag arogleuon safleoedd bridio lle mae'r mosgitos benywaidd yn dodwy wyau. Ym mhob rhywogaeth o fosgitos, mae teimlyddion y gwrywod o'u cymharu â'r benywod yn amlwg yn fwy trwchus ac yn cynnwys derbynyddion clywedol i ganfod cwyn nodweddiadol y pryfaid benywaidd.

 
Mosgito twymyn melyn Aedes aegypti, sy'n nodweddiadol o'r isdeulu Culicinae. Syler ar y teimlyddion trwchus y gwrywod ar y chwith a'r fenyw ar y dde.

Mae'r llygaid cyfansawdd wedi'u gwahanu'n amlwg oddi wrth ei gilydd. Nid oes gan y larfa ond ocellws. Mae llygaid cyfansawdd oedolion yn datblygu mewn rhan ar wahân o'r pen.[31] Ychwanegir ommatidia newydd mewn rhesi hanner cylch yng nghefn y llygad. Yn ystod cam cyntaf y twf, mae hyn yn arwain at omatidia unigol yn sgwâr, ond yn ddiweddarach yn eu datblygiad maent yn troi'n hecsagonol.[31]

Mae gan y pen hefyd sugnydd (proboscis) hirfaith, a ddefnyddir ar gyfer bwydo. Mewn rhywogaethau sugno gwaed nodweddiadol, mae gan y fenyw sugnydd hirgul.

Mae'r thoracs wedi ei siapio'n arbennig ar gyfer symud. Ceir tri phâr o goesau a phâr o adenydd ynghlwm wrth y thoracs. Mae adain y pryfed yn alldyfiant o'r allsgerbwd. Gall y mosgito Anopheles hedfan am hyd at bedair awr yn barhaus ar gyflymder o rhwng 1 a 2 km yr awr ac am bellter o hyd at 12 km mewn noson. Gall y gwryw guro ei adenydd rhwng 450 a 600 gwaith yr eiliad.[32]

Mae'r abdomen hefyd wedi'i siapio gan esblygiad yn arbennig ar gyfer treulio bwyd a datblygu wyau; gall abdomen mosgito ddal tair gwaith ei bwysau ei hun mewn gwaed.[33] Mae'r segment hwn yn ehangu'n sylweddol pan fydd menyw yn ymsugno'r gwaed. Treulir y gwaed dros amser, gan wasanaethu fel ffynhonnell protein ar gyfer cynhyrchu wyau, sy'n llenwi'r abdomen yn raddol.

Oedolion yn bwydo golygu

 
Aedes aegypti, fector cyffredin o dwymyn dengue a thwymyn felen

Yn gyffredinol, mae mosgitos gwrywaidd a benywaidd yn bwydo ar neithdar, gwlyb yr affid, a sudd planhigion,[34] ond mewn llawer o rywogaethau mae rhannau ceg y benywod wedi'u haddasu ar gyfer tyllu croen lletywyr o anifeiliaid a sugno'u gwaed fel ectoparasitiaid. Mewn llawer o rywogaethau, mae angen i'r fenyw gael maetholion o bryd gwaed cyn y gall gynhyrchu wyau, ond mewn llawer o rywogaethau eraill, mae cael maetholion o bryd o waed yn galluogi'r mosgito i ddodwy mwy o wyau. Gallant ddod o hyd i neithdar neu ysglyfaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys synwyryddion cemegol, gweledol a gwres.[35][36] Mae deunyddiau planhigion a gwaed yn ffynonellau ynni defnyddiol ar ffurf siwgrau, ac mae gwaed hefyd yn cyflenwi maetholion mwy dwys, megis lipidau, ond swyddogaeth bwysicaf prydau gwaed yw cael proteinau fel deunyddiau ar gyfer cynhyrchu wyau.[37][38]

Ymhlith pobl, mae'n well gan fosgitos y rhai â gwaed math O, anadlwyr trwm, digonedd o facteria ar y croen, gwres corff uchel, a menywod beichiog.[39][40][41]

 
Yma mae menyw Anopheles stephensi wedi llyncu gwaed ac yn dechrau pasio diferyn diangen o'r gwaed i wneud lle yn ei berfedd i fwy o'r maetholion solet.

Mae mosgitos benywaidd yn hela eu lletwyr gwaed trwy ganfod sylweddau organig fel carbon deuocsid (CO 2) ac 1-octen-3-ol (alcohol madarch, a geir mewn allanadlu) a gynhyrchir o'r lletywr, a thrwy ei adnabod yn weledol. Mae'n well gan fosgitos rai pobl dros eraill, fel soniwyd yn barod. Mae chwys y lletywr (host) a ffefrir yn arogli'n fwy deniadol nag eraill oherwydd y cyfrannau o'r carbon deuocsid, octenol, a chyfansoddion eraill sy'n ffurfio arogl y corff.[42] Y cemegolyn mwyaf pwerus i ddenu mosgitos y Culex quinquefasciatus yw arogl persawr Aldehyde C-9 (neu nonanal).

Cyfansoddyn arall a nodir mewn gwaed dynol sy'n denu mosgitos yw sulcatone neu 6-methyl-5-hepten-2-one, yn enwedig ar gyfer mosgitos Aedes aegypti gyda'r genyn derbynnydd arogl Or4.[43] Mae rhan fawr o synnwyr arogli'r mosgito wedi'i neilltuo i arogli ffynonellau gwaed. O'r 72 math o dderbynyddion arogleuon ar ei antenau, mae o leiaf 27 yn cael eu tiwnio i ganfod cemegau a geir mewn chwys.[44][45]

Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau o fosgitos yn hela yn ystod cyfnod y wawr neu'r cyfnos. Yn ystod gwres y dydd, mae'r rhan fwyaf o fosgitos yn gorffwys mewn lle oer ac yn aros dyfodiad y nos, er y gallant ddal i frathu os aflonyddir arnynt. Mae rhai rhywogaethau, fel y mosgito teigr Asiaidd, yn hedfan ac yn bwydo yn ystod y dydd.[46]

Cyn ac yn ystod sugno'r gwaed, mae mosgitos yn chwistrellu poer i mewn i gyrff yr anifail. Gall y poer hwn weithredu fel gwrthgeulydd; hebddo gallai proboscis y mosgito benywaidd lenwi gyda tholch (tolch = clots). Y poer hefyd yw'r prif lwybr y pathogenau sy'n teithio i lif gwaed yr anifail. Mae'r chwarennau poer yn darged mawr i'r rhan fwyaf o bathogenau, ac oddi yma mae nhw'n canfod eu ffordd i mewn i'r lletywr (yr anifail) trwy'r poer.

Mae brathiad mosgito'n aml yn gadael smotyn sy'n cosi ar groen y dioddefwr, a achosir gan histaminau'n ceisio ymladd yn erbyn y protein a adawyd gan y mosgito.[47]

Poer golygu

Ecoleg golygu

 
Menyw Ochlerotatus notoscriptus yn bwydo ar fraich ddynol

Mae mosgitos yn fyd-eang: maent ym mhob cyfandir oddigerth i'r Antarctig[48] ac ychydig o ynysoedd gyda hinsoddau pegynol neu is-begynol. Mae Gwlad yr Iâ yn ynys o'r fath, ac yn rhydd o fosgitos.[49]

Mae'n debyg bod absenoldeb mosgitos yng Ngwlad yr Iâ a mannau tebyg oherwydd nodweddion yn ei hinsawdd. Ar ddechrau gaeaf cyfandirol di-dor yr Ynys Las a rhanbarthau gogleddol Ewrasia ac America, mae'r chwiler yn mynd i mewn i'r diapause o dan yr iâ sy'n gorchuddio dŵr digon dwfn. Dim ond ar ôl i'r rhew dorri ddiwedd y gwanwyn y daw'r imago i'r amlwg. Yng Ngwlad yr Iâ, mae'r tywydd yn llai rhagweladwy. Yng nghanol y gaeaf mae'n aml yn cynhesu'n sydyn, gan achosi i'r rhew dorri, ond yna i rewi eto ar ôl ychydig ddyddiau. Erbyn hynny bydd y mosgitos wedi dod allan o'u chwilerod, ond mae'r rhewbwynt newydd yn dod i mewn cyn y gallant gwblhau eu cylch bywyd. Byddai angen gwesteiwr ar unrhyw fosgito oedolyn anawtogenaidd i gyflenwi pryd gwaed cyn y gallai ddodwy wyau hyfyw; byddai angen amser i baru, aeddfedu'r wyau a'r oviposit mewn gwlyptiroedd addas. Ni fyddai’r gofynion hyn yn realistig yng Ngwlad yr Iâ ac mewn gwirionedd mae absenoldeb mosgitos o ynysoedd is-begynol o’r fath yn cyd-fynd â bioamrywiaeth pryfed isel yr ynysoedd; Mae gan Wlad yr Iâ lai na 1,500 o rywogaethau o bryfed a ddisgrifir, llawer ohonynt yn ôl pob tebyg wedi'u cyflwyno'n ddamweiniol gan asiantaeth ddynol. Yng Ngwlad yr Iâ mae'r rhan fwyaf o bryfed ectoparasitig yn byw mewn amodau cysgodol neu mewn gwirionedd ar famaliaid; mae enghreifftiau'n cynnwys llau, chwain a llau gwely, nad yw rhewi'n bryder yn eu hamodau byw, a chafodd y rhan fwyaf ohonynt eu cyflwyno'n anfwriadol gan bobl. [49]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Harbach, Ralph (November 2, 2008). "Family Culicidae Meigen, 1818". Mosquito Taxonomic Inventory.
  2. 2.0 2.1 "Mosquitoes of Michigan -Their Biology and Control". Michigan Mosquito Control Organization. 2013.
  3. ref name=mmca-b>"Mosquitoes of Michigan -Their Biology and Control". Michigan Mosquito Control Organization. 2013.
  4. http://www.gatesnotes.com/Health/Most-Lethal-Animal-Mosquito-Week
  5. "Would it be wrong to eradicate mosquitoes? - BBC News". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-01.
  6. Biological notes on mosquitoes Archifwyd 2003-08-05 yn y Peiriant Wayback.. Mosquitoes.org. Adalwyd ar 2013-04-01.
  7. Taking a bite out of mosquito research, Author Paul Leisnham, University of Maryland Archifwyd 2012-07-28 yn Archive.is. Enst.umd.edu (2010-07-26). Adalwyd ar 2013-04-01.
  8. Molavi, Afshin (Mehefin 12, 2003). "Africa's Malaria Death Toll Still "Outrageously High"". National Geographic. Cyrchwyd Gorffennaf 27, 2007.
  9. "Mosquito-borne diseases". American Mosquito Control Association. Cyrchwyd Hydref 14, 2008.
  10. Brown, Lesley (1993). The New shorter Oxford English dictionary on historical principles. Oxford [Eng.]: Clarendon. ISBN 0-19-861271-0.
  11. Beck, Kevin. "What Eats Mosquitoes?". Sciencing. Cyrchwyd 31 May 2021.
  12. Bates, Claire (2016-01-28). "Would it be wrong to eradicate mosquitoes? – BBC News" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-01.
  13. Timothy C. Winegard (20 Aug 2019). The Mosquito: A Human History of Our Deadliest Predator. Text Publishing. t. 2. ISBN 9781925774702.
  14. "More or Less - Have Mosquitoes Killed Half the World? - BBC Sounds". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-27.
  15. G. O. Poinar (2000). "Paleoculicis minutus (Diptera: Culicidae) n. gen., n. sp., from Cretaceous Canadian amber with a summary of described fossil mosquitoes" (PDF). Acta Geologica Hispanica 35: 119–128. http://www.geologica-acta.com/pdf/aghv3501a12.pdf. Adalwyd 2016-02-07.
  16. Borkent A, Grimaldi DA (2004). "The earliest fossil mosquito (Diptera: Culicidae), in Mid-Cretaceous Burmese amber". Annals of the Entomological Society of America 97 (5): 882–888. doi:10.1603/0013-8746(2004)097[0882:TEFMDC]2.0.CO;2. ISSN 0013-8746.
  17. "Discovery of new prehistoric mosquitoes reveal these blood-suckers have changed little in 46 million years". Smithsonian Science News. 7 Ionawr 2013. Cyrchwyd 27 Hydref 2015.
  18. Briggs, D.E. (2013). "A mosquito's last supper reminds us not to underestimate the fossil record". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 110 (46): 18353–4. doi:10.1073/pnas.1319306110. PMC 3832008. PMID 24187151. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3832008.
  19. Greenwalt, D.E.; Goreva, Y.S.; Siljeström, S.M.; Rose, T.; Harbach, R.E. (2013). "Hemoglobin-derived porphyrins preserved in a Middle Eocene blood-engorged mosquito". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 110 (46): 18496–18500. doi:10.1073/pnas.1310885110. PMC 3831950. PMID 24127577. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3831950.
  20. Reidenbach, K.R.; Cook, S.; Bertone, M.A.; Harbach, R.E.; Wiegmann, B.M.; Besansky, N.J. (2009). "Phylogenetic analysis and temporal diversification of mosquitoes (Diptera: Culicidae) based on nuclear genes and morphology". BMC Evolutionary Biology 9 (1): 298. doi:10.1186/1471-2148-9-298. PMC 2805638. PMID 20028549. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2805638.
  21. Jaeger, Edmund C. (1959). A Source-Book of Biological Names and Terms. Springfield, Ill: Thomas. ISBN 978-0-398-06179-1.
  22. "Midges". MDC Discover Nature (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-11-19.
  23. American Mosquito Control Association https://www.mosquito.org/page/faq
  24. Kosova, Jonida (2003) "Longevity Studies of Sindbis Virus Infected Aedes Albopictus".
  25. Michigan Mosquito Control Association; Michigan Mosquito Manual, MMCA Edition.
  26. "The Adaptation of Mosquito Larvae to Salt Water". J Exp Biol 10 (1): 27–36. 1933. doi:10.1242/jeb.10.1.27. https://journals.biologists.com/jeb/article/10/1/27/3846/The-Adaptation-of-Mosquito-Larvae-to-Salt-Water.
  27. Spielman, Andrew; D'Antonio, M. (2001). Mosquito: a natural history of our most persistent and deadly foe. New York: Hyperion. ISBN 978-0-7868-6781-3.
  28. Hribar LJ, Mullen GR. "Predation by Bezzia larvae (Diptera: Ceratopogonidae) on mosquito larvae (Diptera: Culicidae)". Entomol. News 102: 183–186.
  29. Mogi M (2007). "Insects and other invertebrate predators". Journal of the American Mosquito Control Association 23 (2 Suppl): 93–109. doi:10.2987/8756-971X(2007)23[93:IAOIP]2.0.CO;2. PMID 17853600.
  30. Service, Mike (2012). Medical Entomology for Students (arg. 5th). Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-66818-8.
  31. 31.0 31.1 "Evolution of eye development in arthropods: phylogenetic aspects". Arthropod Structure & Development 35 (4): 319–40. December 2006. doi:10.1016/j.asd.2006.08.009. PMID 18089079. https://archive.org/details/sim_arthropod-structure-development_2006-12_35_4/page/319.
  32. Leung, Diana (2000). Elert, Glenn (gol.). "Frequency of mosquito wings". The Physics Factbook. Cyrchwyd 2022-01-24.
  33. African Safari Travel Blog » Blog Archive » Facts you may not know about mosquitoes Archifwyd 2013-10-29 yn y Peiriant Wayback..
  34. Peach, Daniel A. H.; Gries, Gerhard (2019). "Mosquito phytophagy – sources exploited, ecological function, and evolutionary transition to haematophagy". Entomologia Experimentalis et Applicata 168 (2): 120–136. doi:10.1111/eea.12852.
  35. Freudenrich, Craig (2001-07-05). "HowStuffWorks "How Mosquitoes Work"". HowStuffWorks. Cyrchwyd 7 September 2013.
  36. "Multimodal floral cues guide mosquitoes to tansy inflorescences". Scientific Reports 9 (1): 3908. March 2019. Bibcode 2019NatSR...9.3908P. doi:10.1038/s41598-019-39748-4. PMC 6405845. PMID 30846726. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6405845.
  37. Tyagi, B.K. (2004). The Invincible Deadly Mosquitoes. Scientific Publishers. t. 79. ISBN 978-93-87741-30-0. Cyrchwyd 2021-04-06. Only female mosquitoes require a blood meal (protein)...The number of egg formation and development in ovary of the female is directly dependent on quantum and nature supply of blood meal.
  38. "Biology". mosquito.org. American Mosquito Control Association. Cyrchwyd 6 April 2021. Acquiring a blood meal (protein) is essential for egg production, but mostly both male and female mosquitoes are nectar feeders for their nutrition.
  39. "Landing preference of Aedes albopictus (Diptera: Culicidae) on human skin among ABO blood groups, secretors or nonsecretors, and ABH antigens". Journal of Medical Entomology 41 (4): 796–9. July 2004. doi:10.1603/0022-2585-41.4.796. PMID 15311477. https://archive.org/details/sim_journal-of-medical-entomology_2004-07_41_4/page/796.
  40. Chappell, Bill (12 July 2013). "5 Stars: A Mosquito's Idea Of A Delicious Human". NPR. Cyrchwyd 23 July 2021.
  41. "Heritability of attractiveness to mosquitoes". PLOS ONE 10 (4): e0122716. 22 April 2015. Bibcode 2015PLoSO..1022716F. doi:10.1371/journal.pone.0122716. PMC 4406498. PMID 25901606. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4406498.
  42. "Olfaction: mosquito receptor for human-sweat odorant". Nature 427 (6971): 212–3. January 2004. Bibcode 2004Natur.427..212H. doi:10.1038/427212a. PMID 14724626.
  43. "Scientists have identified the gene that makes mosquitoes crave human blood". Richard Dawkins Foundation. November 21, 2014.
  44. Devlin, Hannah (February 4, 2010). "Sweat and blood why mosquitoes pick and choose between humans". The Times. London. Cyrchwyd May 13, 2010.
  45. Estrada-Franco, R. G.; Craig, G. B. (1995). Biology, disease relationship and control of Aedes albopictus. Technical Paper No. 42. Washington, D.C.: Pan American Health Organization.
  46. Maruniak, James E. (July 2014). "Asian tiger mosquito". Featured Creatures. Gainesville, Florida: University of Florida. Cyrchwyd October 2, 2014.
  47. Huget, Jennifer (2007-07-31). "Will Nothing Stop That Infernal Itch?". Washingtonpost.com. Cyrchwyd 2013-10-15.
  48. Mullen, Gary; Durden, Lance (2009). Medical and Veterinary Entomology. London: Academic Press.
  49. 49.0 49.1 "Vísindavefurinn: Af hverju lifa ekki moskítóflugur á Íslandi, fyrst þær geta lifað báðum megin á Grænlandi?" (yn Islandeg). Visindavefur.hi.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-02. Cyrchwyd 2013-10-15.