Anhwylder gorbryder difrifol yw mudandod dethol lle nad yw person yn gallu siarad mewn sefyllfaoedd cymdeithasol penodol, megis â chyd-ddisgyblion yn yr ysgol neu â pherthnasau nad ydynt yn gweld yn aml iawn.

Mudandod dethol
Enghraifft o'r canlynolclefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder lleferydd, anhwylder gorbryder Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nid yw plentyn nac oedolyn â mudandod dethol yn gwrthod nac yn dewis peidio siarad ar adegau penodol; yn llythrennol nid ydynt yn gallu siarad. Mae’r disgwyliad i siarad â phobl benodol yn achosi iddynt rewi ac yn sbarduno teimladau o banig, ac mae siarad yn amhosibl.

Gydag amser, bydd y person yn dysgu i ragweld y sefyllfaoedd sy’n pryfocio’r ymateb hwn cyn iddynt ddigwydd a byddant yn gwneud popeth y gallant i’w hosgoi. Fodd bynnag, mae pobl â mudandod dethol yn gallu siarad yn rhydd â phobl benodol, megis teulu a ffrindiau agos, pan nad oes rhywun arall o gwmpas i achosi iddynt rewi.[1]

Achosion golygu

Mae arbenigwyr yn cyfeirio at fudandod dethol fel ofn (ffobia) siarad â rai pobl. Nid yw’r achos o hyd yn amlwg, ond mae’n wyddys ei fod yn gysylltiedig â gorbryder.

Fel arfer bydd gan y plentyn duedd o fod yn orbryderus ac yn cael trafferth gwneud digwyddiadau bob dydd.[1]

Triniaeth golygu

Gyda thriniaeth addas, gall y rhan fwyaf o blant oresgyn mudandod dethol. Ond yr hynaf ydynt pan maent yn derbyn diagnosis, yr hiraf fydd y triniaeth yn ei gymryd.

Bydd effeithiolrwydd triniaeth yn dibynnu ar:

  • pa mor hir mae’r person wedi cael mudandod dethol
  • os oes ganddynt anawsterau cyfathrebu neu ddysgu neu bryderon ychwanegol ai peidio
  • cydweithrediad pawb sydd ynghlwm â’u haddysg a’u bywyd teuluol

Nid yw triniaeth yn ffocysu ar y siarad ei hun, ond yn hytrach ar leihau’r gorbryder sydd ynghlwm â siarad. Y mathau o driniaethau mwyaf effeithiol yw therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) a therapi ymddygiadol.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Mudandod Dethol". meddwl.org. 2020-08-17. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. "Selective mutism". nhs.uk (yn Saesneg). 2021-02-10. Cyrchwyd 2022-03-05.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Mudandod Dethol ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall