Mudiad Amddiffyn Cymru

Mudiad cenedlaethol Cymreig yn y 1960au oedd Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC).

Mudiad Amddiffyn Cymru
Enghraifft o'r canlynolparamilitary organization Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Cymreig Edit this on Wikidata
Daeth i ben1969 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd MAC yn wreiddiol fel ymateb i'r cynllun o adeiladu argae ar draws Afon Tryweryn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl. Roedd hyn yn golygu boddi pentref Capel Celyn. Y sefydlwyr oedd Owain Williams, John Albert Jones ac Emyr Llewelyn. Ar 10 Chwefror 1963, ffrwydrwyd bom ar y safle waith gan dri gŵr; yn ddiweddarach cafwyd Emyr Llywelyn Jones yn euog o hyn a'i ddedfrydu i flwyddyn o garchar. Y diwrnod y dedfrydwyd ef, ffrwydrodd bom ger peilon trydan ger Gellilydan; carcharwyd Owain Williams a John Albert Jones am hyn yn ddiweddarach.

John Jenkins

Yn nes ymlaen daeth John Barnard Jenkins yn arweinydd y mudiad. Credir mai MAC oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom ar safle argae Llyn Clywedog yn 1966. Yn 1967 ffrwydrwyd bom ger pibell oedd yn cario dŵr o Lyn Llanwddyn, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffrydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd, gerllaw man oedd i'w defnyddio ar gyfer cynhadledd i drefnu Arwisgiad 1969.

Yn 1968, dinistriwyd swyddfa dreth incwm yng Nghaerdydd gan fom, yna adeilad y Swyddfa Gymreig yn yr un ddinas a phibell ddŵr yn Helsby. Yn Ebrill 1969, ffrwydrwyd bom mewn swyddfa dreth incwm yn ninas Caer. Ar 30 Mehefin 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn Abergele pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.

Ym mis Tachwedd 1969, cymerwyd John Jenkins i'r ddalfa, ac yn Ebrill 1970 cafwyd ef yn euog o ddeg cyhuddiad yn ymwneud â ffrwydron, a'i ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. I bob pwrpas, rhoddodd hyn ddiwedd ar y mudiad.

Llyfryddiaeth golygu