Mudiad cymdeithasol yw mudiad heddwch sy'n ceisio dod â therfyn i ryfel a hyrwyddo heddwch. Gelwir gweithredwr gwleidyddol sy'n hybu datrysiadau heddychlon o anghydfodau gwleidyddol yn weithredwr heddwch neu'n ymgyrchydd heddwch.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ysbrydolwyd nifer o ymgyrchwyr heddwch gan fygythiad o ryfel niwclear yn ystod y Rhyfel Oer. Arweiniodd hyn at yr Ymgyrch at Ddiarfogi Niwclear.

Gwelwyd llawer o weithredu heddychol yn ystod Rhyfel Fietnam. Gwelwyd brotestiadau yn erbyn y rhyfel ledled yr Unol Daleithiau. Cafwyd nifer o orymdeithiau a gefnogwyd gan gantorion poblogaidd y cyfnod fel Arlo Guthrie a Joan Baez.

Gwelwyd cynnydd mewn gweithredu heddychol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil sefyllfaoedd bregus yn y Dwyrain Canol gan gynnwys rhyfeloedd Rhyfel Irac Affganistan.

Gwelir berthynas glos rhwng grŵpiau heddychlon, ymgyrchwyr amgylcheddol a'r mudiad gweithredu'n uniongyrchol.

Gweler hefyd golygu