Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri yw Mudkip (Japaneg: ミズゴロウ - Mizugorou). Mae Mudkip yn un o'r cymeriadau mwyaf amlwg o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.

Mudkip

Cymeriad golygu

Daw'r enw Mudkip o'r geiriau Saesneg mud (mwd) a skip (i sgipio). Daw'r enw Siapanëeg Mizugorou o mizu (水 - dŵr) a mutsugorō (ムツゴロウ - math o bysgodyn).

Ffisioleg golygu

Mae Mudkip (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon dŵr sydd yn edrych fel acsolotlau glas bychain gyda bochau oren, cegau a chynffonnau mawr ac esgyll mawr ar eu bennau. Mae gan Mudkip y gallu i saethu dŵr allan o'u cegau.

Ymddygiad golygu

Oherwydd eu bod mor fach, mae Mudkip yn byw a teithio mewn diadellau. Mae pob Mudkip yn amddiffynnol iawn o'u ffrindiau ac yn defnyddio eu esgyll mawr er mwyn synhwyro newidiadau o fewn cerrynt aer a dŵr. Wrth wneud hyn gall Mudkip osgoi ysglyfaethwyr. Maen nhw'n cysgu gan gladdu eu hunain mewn mwd.

Cynefin golygu

Caiff Mudkip eu ffeindio'n agos i gorsydd a morfeydd.

Deiet golygu

Mae Mudkip yn bwyta pysgod a weithiau ffrwythau a llysiau.

Effaith diwyllianol golygu

Yn Gorffennaf 2010, daliodd Nintendo etholiad i gweld pwy oedd hoff cymeriad chwaraewyr Pokémon. Enillodd Mudkip yr acolad ac aeth yr ail a thrydydd safle i Typhlosion a Blastoise).

Mae'r ymadrodd bachog "So i herd u liek mudkipz?" yn meme rhyngrwyd o fewn y gymdeithas Pokémon ac ar y wefan 4chan.

Ieithoedd gwahanol golygu

  • Almaeneg: Hydropi - o hydro (Groeg am 'dŵr') a puppy (cenau)
  • Ffrangeg: Gobou - o gober (i llyncu) a boue (mwd)
  • Coreeg: 물짱이 Muljjang-i - o 물 (dŵr) a 장이 (âs)