Cyn-focsiwr pwysau trwm o'r Unol Daleithiau oedd Muhammad Ali, enw genedigol Cassius Marcellus Clay Jr. (17 Ionawr 1942 - 3 Mehefin 2016).[2] Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd deirgwaith.

Muhammad Ali
GanwydCassius Marcellus Clay, Jr. Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Louisville Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 2016 Edit this on Wikidata
Scottsdale, Arizona Edit this on Wikidata
Man preswylScottsdale, Arizona, Cherry Hill, New Jersey Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Santa Monica College
  • Central High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr, hunangofiannydd, ymgyrchydd, awdur Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
TadCassius Marcellus Clay Sr. Edit this on Wikidata
MamOdessa Grady Clay Edit this on Wikidata
PriodSonji Roi, Khalilah Ali, Veronica Porché Ali, Yolanda Williams Edit this on Wikidata
PlantMaryum Ali, Muhammad Ali Jr., Hana Ali, Laila Ali, Rasheda Ali Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Dinasyddion yr Arlywydd, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Philadelphia Liberty Medal, Arthur Ashe Courage Award, Otto Hahn Peace Medal, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Associated Press Athlete of the Year, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Muhammad Ali
Llysenw(au)The Greatest
The People's Champion
The Louisville Lip
PwysauPwysau Trwm
Taldra6 ft 3 in (191 cm)[1]
Cyrhaeddiad78 in (198 cm)
CenedligrwyddAmericanwr
Cofnod paffio
Cyfanswm gornestau61
Buddugoliaethau56
Buddugoliaethau drwy KO37
Colliadau5
Gwefanmuhammadali.com/

Ganed ef yn Louisville, Kentucky. Fel bocsiwr amatur, enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1960 yn Rhufain. Wedi'r gemau, trôdd yn focsiwr proffesiynol. Enillodd bencampwriaeth pwysau trwm y byd am y tro cyntaf yn 1964, pan gafodd fuddugoliaeth annisgwyl tros Sonny Liston.

Yn 1967, ymunodd a'r Nation of Islam, a newidiodd ei enw o Cassius Clay i Muhammad Ali. Yn 1967, gwrthododd fynd i ymladd yn Rhyfel Fietnam, a chymerwyd ei deitl oddi arno. Collodd ornest enwog yn erbyn Joe Frazier yn 1971, ond yn 1974, mewn gornest yn Kinshasa, Zaire, curodd George Foreman i ad-ennill pencampwriaeth pwysau trwm y byd. Yn ddiweddarach, ymladdodd ddwy ornest arall yn erbyn Joe Frazier, gan ennill y ddwy.

Wedi iddo ymddeol, datblygodd Ali Glefyd Parkinson; credir bod hyn o ganlyniad i'w yrfa fel bocsiwr.

Bu farw 3 Mehefin 2016 yn Scottsdale, Arizona yn 74 mlwydd oed.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cassius Clay". sports-reference.com. Sports Reference LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-05. Cyrchwyd 17 Ionawr 2014.
  2. Lipsyte, Robert (3 Mehefin 2016). "Muhammad Ali Dies at 74: Titan of Boxing and the 20th Century". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2016.
  3. NBC News Muhammad Ali, 'The Greatest of All Time', Dead at 74 adalwyd 4 Mehefin 2016