Mulfran werdd

rhywogaeth o adar
Mulfran werdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Pelecaniformes
Teulu: Phalacrocoracidae
Genws: Phalacrocorax
Rhywogaeth: P. aristotelis
Enw deuenwol
Phalacrocorax aristotelis
(Linnaeus, 1758)
Phalacrocorax aristotelis

Mae'r Fulfran werdd (Phalacrocorax aristotelis), yn aelod o deulu'r Phalacrocoracidae, y mulfrain. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, de-orllewin Asia a Gogledd Affrica.

Mae'r Fulfran werdd yn aderyn mawr du, 68–78 cm o hyd a 95–110 cm ar draws yr adenydd. Gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng y rhywogaeth yma a'r Fulfran, ond mae ychydig yn llai na'r Fulfran, a'r pig yn llai ac yn deneuach, ac mae siâp y pen yn wahanol, yn dangos mwy o "dalcen" na'r Fulfran. Yn y tymor nythu mae plu hirach ar y pen, yn wahanol i'r Fulfran, ac mae gwawr werdd ar y plu.

Pysgod yw'r prif fwyd, ac mae'n pysgota yn y môr yn unig fel rheol, yn wahanol i'r Fulfran sydd hefyd yn pysgota ar afonydd a llynnoedd. Mae'n dal y pysgod trwy nofio o dan y dŵr, a gall blymio hyd at ddyfner o 45 medr o leiaf.

Maent yn nythu ar glogwyni ger glan y môr fel rheol, ac yn adeiladu nyth o wymon a phriciau. Gall ddechrau nythu ym mis Chwefror.

Mulfran werdd ifanc yn crwydro golygu

 
Mulfran werdd ifanc wedi crwydro o'r traeth

Ar fore Rhagfyr 16eg, 2017, am 9.00yb, gwelwyd Mulfran werdd ifanc ar ymyl y palmant yn ceisio croesi'r ffordd, sef Ffordd Colwyn, Llandudno, sy'n un o'r ffyrdd prysuraf i mewn i'r dref! Wedi crwydro oddi ar Greigiau Rhiwledyn yr oedd. Llwyddwyd i'w hebrwng i un o'r gerddi mewn stryd dawelach- Longleat Avenue. Dair awr yn ddiweddarach, ar ôl gorffwyso, llwyddodd i hedfan yn ôl at y traeth.

Mae nifer o is-rywogaethau:

  • Phalacrocorax aristotelis aristotelis - gogledd-orllewin Ewrop
  • Phalacrocorax aristotelis desmarestii - de Ewrop a de-orllewin Asia
  • Phalacrocorax aristotelis riggenbachi - gogledd-orllewin Affrica

Mae'n aderyn cyffredin o gwmpas y glannau yng Nghymru.