Musselburgh

tref yn Nwyrain Lothian

Tref yn Nwyrain Lothian, yr Alban, yw Musselburgh[1] (Gaeleg: Baile nam Feusgan).[2] Fe'i lleolir ar arfordir Moryd Forth, ar ffin ddwyreiniol Caeredin, tua 5 milltir (8 km) o ganol y ddinas.

Musselburgh
Pont John Rennie dros Afon Esk ym Musselburgh
Mathtref, bwrdeistref fach Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,840 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iRosignano Marittimo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Lothian Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd5.42 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Esk Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.9419°N 3.0542°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS19000549 Edit this on Wikidata
Cod OSNT345726 Edit this on Wikidata
Cod postEH21 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 19,840.[3]

Sefydlwyd y dref yng nghyfnod y Rhufeiniaid, pan godwyd pont ar draws Afon Esk. Ailadeiladwyd y bont Rufeinig ar ei sylfeini gwreiddiol yn y 12g, ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1597, y tro hwn gyda thrydydd bwa wedi’i ychwanegu ar ochr ddwyreiniol yr afon. Mae hon, yr "Auld Brig", yn dal i gael ei defnyddio fel pont droed. I'r gogledd saif y Bont Newydd, a ddyluniwyd gan John Rennie ac a adeiladwyd ym 1806.

Yr "Auld Brig", Musselburgh

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 8 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-08 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 8 Hydref 2019
  3. City Population; adalwyd 8 Hydref 2019