Mae Mynydd Barker yn dref yn Ne Awstralia, 33 cilomedr o Adelaide ym Mryniau Adelaide. Poblogaeth y dref yw 14,452.[1]

Mount Barker
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,842, 18,330, 21,554 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1839 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Uwch y môr322 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.0667°S 138.85°E Edit this on Wikidata
Cod post5251 Edit this on Wikidata
Map
Depo Rheilffordd dreftadaeth Steamranger

Enwyd y dref ar ôl bryn cyfagos a enwyd ar ôl Capten Collet Barker[2], fforiwr ac aelod o'r fyddin Brydeinig.

Gwerthwyd tir da amaethyddol yn yr ardal gan Lywodraeth De Awstralia yn 1838[3] ac adeiladwyd melin ŷd i brosesu cynnyrch yr ardal.

Adeiladwyd rheilffordd o Gyffordd Mynydd Barker i Fynydd Barker ac agorwyd gorsaf reilffordd Mynydd Barker ar 27 Tachwedd 1883. Estynnwyd y lein i Strathalbyn ar 15 Medi 1884, ac yn y pen draw i Goolwa a Victor Harbor. Caewyd y lein ym 1989, ond erbyn hyn mae Rheilffordd dreftadaeth Steamranger yn cynnal gwasanaethau stêm ar y lein.[4]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.