Mynydd yn y Dwyrain Canol yw Mynydd Hermon (Arabeg: Jebel Al Shaikh, Hebraeg: הר חרמון, Har Hermon). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffîn rhwng Libanus a Syria. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967; cyhoeddodd Israel yn 1980 fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.

Mynydd Hermon
Mathmynydd, masiff, lle yn y Beibl Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolUcheldiroedd Golan Edit this on Wikidata
SirRashaya District Edit this on Wikidata
GwladSyria Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,813.95 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.4°N 35.85°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd1,804 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAnti-Lebanon mountains Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd Hebraeg ac Arabeg iddo. Ceir tarddle Afon Iorddonen ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn y Beibl. Oherwydd hyn, mae'n bur gyffredin fel enw ar gapel yng Nghymru, a cheir yr enw "Hermon" ar o leiaf dri phentref, Hermon (Sir Gaerfyrddin), Hermon (Sir Benfro) a Hermon (Ynys Môn).