Mynydd Lozère (Ffrangeg: Mont Lozère) yw copa uchaf mynyddoedd y Cévennes yn rhan ddeheuol canolbarth Ffrainc. Mae'r prif gopa yn 1,702 medr o uchder, gyda chopa arall sy'n 1,688 m.

Mynydd Lozère
Mathmasiff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCévennes National Park Edit this on Wikidata
SirLozère Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr1,699 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.4272°N 3.7367°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCévennes Edit this on Wikidata
Map
Deunyddgwenithfaen Edit this on Wikidata

Mae'r mynydd yn gyrchfan boblogaidd i dwristaid, ar gyfer sgïo yn y gaeaf a cherdded yn yr haf. Ar lethrau de-orllewinol y mynydd, ceir meini hirion cynhanesyddol La Cham des Bondons. Enwyd département Lozère ar ôl y mynydd.