Mynyddoedd Chiricahua

Cadwyn o fynyddoedd yn ne-ddwyrain Arizona, am y ffin â New Mexico, UDA, sy'n rhan o Fforest Genedlaethol Coronado yw'r Mynyddoedd Chiricahua neu Mynyddoedd y Chiricahua. Y gopa uchaf yw Copa Chiricahua, sy'n 9759 troedfedd uwch lefel y môr [1].

Mynyddoedd Chiricahua
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCochise County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Uwch y môr9,759 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.8464°N 109.2913°W, 31.9°N 109.4°W Edit this on Wikidata
Hyd55 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBasin and Range Province Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Chiricahua (gwahaniaethu).

Roedd y mynyddoedd hyn yn gartref i'r Apache Chiricahua, yn cynnwys Cochise a Geronimo. Dyma gadarnle mwyaf y bobl honno, a fu - gyda'r Sierra Madre dros y ffin i'r de ym Mecsico - yn ganolbwynt eu gwrthsafiad hir yn erbyn llwyodraeth yr Unol Daleithiau yn y Rhyfeloedd Apache.

Mae erydiad wedi creu cyfresi cymhleth o gribau mynyddig, yn dyrrau a cholofnau carreg trawiadol sy'n codi o'r fforest islaw. Diogelir y tirwedd arbennig yma mewn parc cenedlaethol.

Mae Bwlch Apache yn gorwedd rhwng Mynyddoedd Chiricahua a Mynyddoedd Dos Cabezas.

Dolenni allanol golygu