Mynyddoedd Wicklow

Mae Mynyddoedd Wicklow (Gwyddeleg: Sléibhte Chill Mhantáin) yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn ne-ddwyrain Iwerddon. Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford. Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd yn 925m o uchel, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd yn 847m o uchel. Ar ddiwrnod braf gellir gweld copaon Mynyddoedd Wicklow o ucheldir gogledd-orllewin Cymru.

Mynyddoedd Wicklow
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSwydd Wicklow, Swydd Wexford, Swydd Carlow Edit this on Wikidata
SirSwydd Dulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd3,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr925 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.08°N 6.33°W Edit this on Wikidata
Hyd66 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolDefonaidd, Cambriaidd Edit this on Wikidata
Map
Deunyddgwenithfaen, mica, sgist, cwartsit Edit this on Wikidata

Mae'r rhan fwyaf o'r ucheldir hwn yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow. Un o'r canolfannau mwyaf poblogaidd yw Glendalough, lle ceir safle mynachlog Geltaidd gynnar a nodweddir gan ei thyrau crwn main.

Mynyddoedd Wicklow
Coedwig ym Mynyddoedd Wicklow
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.