Grŵp hip hop Seisnig sy'n dod o ardal Tref Camden yn Lundain ydy N-Dubz. Arferent ganu ar label recordio Polydor Records cyn ymuno ag All Around the World Records. Maent wedi cael chwech cân sydd wedi bod yn 40 Uchaf Siart Senglau'r DU, gyda'u cân enwocaf "I Need You" yn cyrraedd rhif 5 yn y siart. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf Uncle B ar 17 Tachwedd 2008 ac aeth i rif 11 yn Siart Albymau'r DU. Ers hynny mae Uncle B wedi gwerthu tua 600,000 o gopïau. Rhyddhawyd eu hail albwm Against All Odds ar 16 Tachwedd 2009 ac aeth i rif 6 yn y siart.

dde

Dolenni allanol golygu