Cylchgrawn am gerddoriaeth boblogaidd yn y Deyrnas Unedig yw'r New Musical Express neu NME. Mae'r cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi'n wythnosol ers mis Mawrth 1952 ac mae ganddo gylchrediad o 23,924[1].

NME
Enghraifft o'r canlynolmusic newspaper, online magazine Edit this on Wikidata
GolygyddMike Williams Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1952 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
PerchennogTI Media, BandLab Technologies Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nme.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr NME

Hwn oedd y papur Prydeinig cyntaf i gyhoeddi'r siart senglau, a ymddangosodd am y tro cyntaf yn rhifyn mis Tachwedd 1952. Gwelwyd uchafbwynt gwerthiant y papur yn ystod y 1970au pan y cyclchgrawn hwn oedd y cylchgrawn cerddorol a werthai fwyaf ym Mhrydain. Yn ystod y blynyddoedd 1972 tan 1976, cafodd y papur ei gysylltu â newyddiaduraeth Gonzo, yna daeth yn gysylltiedig â Roc Pync yn sgîl erthyglau gan Tony Parsons a Julie Burchill.

Cyfeiriadau golygu

  1. "MAGAZINE ABCs: NME and Q suffer major circulation falls". Media Week. London. Cyrchwyd 14 Medi 2012.
  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.