Nancy Reagan

actores

Roedd Nancy Davis Reagan (ganed Anne Frances Robbins; 6 Gorffennaf 19216 Mawrth 2016) yn actores ffilm Americanaidd ac yn wraig i'r 40fed Arlywydd yr Unol Daleithiau, Ronald Reagan. Gwasanaethodd fel Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 1981 i 1989.

Nancy Reagan
Nancy Reagan


Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1981 – 20 Ionawr 1989
Arlywydd Ronald Reagan
Rhagflaenydd Rosalynn Carter
Olynydd Barbara Bush

Prif Foneddiges Califfornia
Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 1967 – 6 Ionawr 1975
Llywodraethwr Ronald Reagan
Rhagflaenydd Bernice Brown
Olynydd Gloria Deukmejian

Geni 6 Gorffennaf 1921
Plains, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Yr Unol Daleithiau
Marw 6 Mawrth 2016(2016-03-06) (94 oed)
Bel Air, Califfornia, Yr Unol Daleithiau
Plaid wleidyddol Plaid Weriniaethol
Priod Ronald Reagan (1952–2004)
Plant Patti Davis
Ron Reagan
Llofnod

Fe'i ganwyd yn Ninas Efrog Newydd, ond ar ôl i'w rhieni wahanu, y bu'n byw ym Maryland gyda'i modryb ac ewythr am beth amser. Symudodd i Chicago wedi i'w mam ail-briodi yn 1929, gan gymryd yr enw Davis o'i llys-dad. Fel Nancy Davis, yr oedd yn actores Hollywood yn y 1940au a'r 1950, yn serennu mewn ffilmiau megis The Next Voice You Hear..., Night into Morning a Donovan's Brain. Yn 1952, priododd Ronald Reagan, oedd ar y pryd yn llywydd ar Gymdeithas yr Actorion Sgrin. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd. Roedd Reagan yn Brif Foneddiges Califfornia tra yr oedd ei gŵr yn Llywodraethwr o 1967 i 1975.

Ffilmiau golygu

  • Portrait of Jennie (1948)
  • The Doctor and the Girl (1949)
  • East Side, West Side (1949)
  • Shadow on the Wall (1950)
  • The Next Voice You Hear... (1950)
  • Night into Morning (1951)
  • It's a Big Country (1951)
  • Talk About a Stranger (1952)
  • Shadow in the Sky (1952)
  • Donovan's Brain (1953)
  • Hellcats of the Navy (1957)
  • Crash Landing (1958)
Rhagflaenydd:
Rosalynn Carter
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
19811989
Olynydd:
Barbara Bush