Newyddiadurwraig a gwleidydd o Awstralia yw Natalie Louise Bennett (ganwyd 10 Chwefror 1966), sydd bellach yn arwain y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr. Fe'i hetholwyd i arwain Plaid Werdd Cymru a Lloegr ar 3 Medi 2012.[1][2]

Natalie Bennett
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Medi 2012
DirprwyWill Duckworth
Amelia Womack
Shahrar Ali
Rhagflaenwyd ganCaroline Lucas
Manylion personol
Ganwyd (1966-02-10) 10 Chwefror 1966 (58 oed)
Sydney, Awstralia
Plaid wleidyddolPlaid Werdd Cymru a Lloegr
CymarJim Jepps
Alma materPrifysgol Sydney
Prifysgol New England
Prifysgol Caerlŷr

Mae Bennett wedi dweud ei bod yn ffeminist ers ei phlentyndod.[3] Sefydlodd grŵp merched y Blaid Werdd a bu'n weithgar gyda'r Fawcett Society rhwng 2010 a 2014. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ecoleg a chynaladwyedd ers iddi astudio amaethyddiaeth ar gyfer ei gradd.[4] Mae hefyd o blaid diddymu Brenhiniaeth Prydain.[5]

Arweinydd y Blaid Werdd golygu

Ar 3 Medi 2012, penodwyd Natalie Bennett yn Arweinydd y Blaid Werdd yn lle Caroline Lucas.[6] Yn ei chyfarfod cyntaf gyda'r wasg mynegodd y farn mai'r "unig ffordd ymarferol ymlaen i bobl Prydain" oedd y Blaid Werdd.[2] Ym Mai 2024 fe'i henwebwyd i ymladd dros sedd Holborn a St Pancras yn Nhŷ'r Cyffredin.[7]

Yn Ionawr 2015 disgrifiodd gyfweliad a gafodd fel un "hynod o boenus".[8]

Yn yr un mis, penderfynodd Ofcom beidio â chynnwys Plaid Werdd Cymru a Lloegr yn y dadleuon gwleidyddol a oedd i'w darlledu ychydig wythnosau cyn Etholiad Cyffredinol 2015. Canlyniad hyn oedd cynnydd aruthrol yn y gefnogaeth i'r Blaid Werdd a dywedodd Bennett fod penderfyniad Ofcom "yn warthus ac yn gywilyddus".[9] Dywedodd y prif weinidog, David Cameron, ei fod yn berffaith hapus i'r ddadl gynnwys y Blaid Werdd, ac na fyddai yntau'n cymryd rhan ynddi, onibai ei bod hefyd yn cael gwahoddiad.[10][11] Newidiodd Ofcom ei benderfyniad a chaniatawyd i'r Blaid Werdd fod yn rhan o'r dadleuon cyn yr etholiad a chynyddodd y gefnogaeth i'r blaid unwaith yn rhagor.[12] Cynhaliwyd y cyntaf o'r dadleuon hyn ar 2 Ebrill 2015, gyda Bennett yn cynrychioli'r Blaid Werdd.

Llyfryddiaeth golygu

  • Golygydd, Thailand Country Study: Best Practice Guide on Sustainable Action Against Child Labour (1998) ISBN 974-8369-59-5[13]
  • Golygydd, Women's Health and Development, Country Profile Thailand[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. "New Leader and Deputy Leader announcement". Green Party. 3 Medi 2012. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2012.
  2. 2.0 2.1 "Natalie Bennett elected new Green Party leader in England and Wales. She beat three other candidates to the position in a poll of Green Party members.". BBC. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  3. Natalie Bennett: Feminism is... http://www.feministtimes.com/; adalwyd 17 Ebrill 2015
  4. Rath, Kayte. "Profile: Green Party leader Natalie Bennett". BBC News. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2012.
  5. "Natalie Bennett and the Green manifesto: zero growth, free condoms, no monarchy". The Week. 12 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-16. Cyrchwyd 16 Ebrill 2015.
  6. "A new leader will not push the Green Party off the political fringe". The Economist. 8 Medi 2012. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2012.
  7. "Natalie Bennett selected to contest Holborn and St Pancras at 2015 General Election". Plaid Werdd Cymru a Lloegr. 4 Mai 2014. Cyrchwyd 9 Ionawr 2015.
  8. "Natalie Bennett admits LBC Radio interview was 'absolutely excruciating'". The Independent. 24 Chwefror 2015. Cyrchwyd 25 Chwefror 2015.
  9. "disgraceful and indefensible" oedd y geiriau a ddefnyddiodd Bennette
  10. http://rt.com/uk/220851-greens-excluded-debate-ofcom/
  11. http://greenparty.org.uk/news/2014/10/13/natalie-bennett-leaders-debates-will-not-be-a-fair-representation-of-politics-if-greens-are-excluded/
  12. http://greenparty.org.uk/news/2015/01/23/leaders-debates-announced-green-party-statement/
  13. "Thailand Country Study Towards a Best Practice Guide on Sustainable Action Against Child Labour". International Labour Organisation. Ionawr 1998. Cyrchwyd 12 Ebrill 2013. (Ceir copi o'r papur ar ei gwefan)
  14. "Women's Health and Development: Country Profile, Thailand:Authors". Women's Health and Development. World Health Organization. Cyrchwyd 12 Ebrill 2013. (Ceir copi o'r papur ar ei gwefan)

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Caroline Lucas
Arweinydd y Blaid Werdd
3 Medi 2012 – presennol
Olynydd:
deiliad