National Football League

Mae'r National Football League (a elwir hefyd yn NFL) yn gynghrair pêl-droed Americanaidd. Mae yna 32 o dimau yn y gynghrair. Mae'r gynghrair yn un o brif gynghreiriau chwaraeon proffesiynol yr Unol Daleithiau a Chanada.

National Football League (NFL)
Chwaraeon Pêl-droed Americanaidd
Sefydlwyd 20 Awst 1920
Nifer o Dimau 32, wedi'u rhannu'n ddwy adran gydag 16 tîm yr un, ill dau yn cynnwys 4 isadran gyda 4 tîm yr un.
Gwlad  Unol Daleithiau
Pencampwyr presennol Kansas City Chiefs (3)
Gwefan Swyddogol NFL.com

Hwn yw'r gynghrair broffesiynol fwyaf poblogaidd yn ôl gwylwyr teledu yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn. Yr NFL hefyd yw'r gynghrair sydd â'r presenoldeb uchaf ym mhob gêm ledled y byd; yn y tymor yn 2014, roedd y dorf gyfartalog mewn gêm NFL yn fwy na 67,000. Mae ei gêm rownd derfynol, y Super Bowl, yn ŵyl genedlaethol answyddogol yn yr U.D.A., ac mae'n cael ei wylio gan fwy o bobl nag unrhyw raglen deledu Americanaidd arall.

O ran y nifer o chwaraewyr a phobl sy'n gweithio iddi, yr NFL yw'r gynghrair chwaraeon broffesiynol fwyaf yn y byd. Fe'i hystyrir fel y lefel gystadleuol uchaf yn y byd ar gyfer pêl-droed Americanaidd.

Hanes yr NFL golygu

 
Gêm NFL rhwng y Tennessee Titans (glas) a'r Houston Texans (gwyn)

Ym 1920, fe ffurfiwyd cynghrair bêl-droed Americanaidd ac fe'i helwir yr American Professional Football Association. Ym 1921 newidiwyd ei henw i'r National Football League. Ym 1960 fe ffurfiwyd cynghrair arall, o'r enw'r American Football League ac yna ym 1970, ymunwyd y National Football League a'r American Football League â'i gilydd er mwyn i dimau o'r ddwy gynghrair allu chwarae yn erbyn ei gilydd. Newidiwyd enw'r gynghrair National Football League i'r National Football Conference (a elwir fel arfer yn NFC), a newidiwyd enw'r American Football League i'r American Football Conference (a elwir fel arfer yn AFC). Y ddwy adran hyn gyda'i gilydd yw'r National Football League heddiw (a elwir fel arfer yn NFL).

Timau golygu

Oherwydd maint y wlad, mae'r timau yn cael eu gwahanu a'u rhoi mewn isadranau rhanbarthol llai. Rhennir y tîmau fel a ganlyn:

Timau'r AFC

Timau'r Dwyrain

Timau'r Gogledd

Timau'r De

Timau'r Gorllewin

  • Denver Broncos (Denver, Colorado)
  • Kansas City Chiefs (Kansas City, Missouri)
  • Los Angeles Chargers (Carson, California, ger Los Angeles ar hyn o bryd; byddant yn symud i faestref arall yn Los Angeles, Inglewood, yn 2020 ac yn chwarae mewn stadiwm newydd a fydd yn perthyn i'r Los Angeles Rams)
  • Oakland Raiders (Oakland, California; byddant yn symud i Las Vegas, Nevada yn 2019 neu 2020)
Timau'r NFC

Timau'r Dwyrain

Timau'r Gogledd

Timau'r De

Timau'r Gorllewin

Amserlen golygu

Mae'r timau yn chwarae gemau yn erbyn ei gilydd o fis Medi tan fis Ionawr. Hwn yw'r Tymor Arferol (Regular Season). Mae pob tîm yn chwarae 16 gêm.

"Playoffs" golygu

Ar ddiwedd pob tymor NFL, mae'r wyth tîm sy'n gorffen ar frig eu hisadrannau, a'r ddau dîm orau o'r ddwy adran na lwyddon nhw i ennill eu hisadrannau (gelwir y pedwar tîm hyn yn Wild Cards) yn mynd i mewn i gystadleuaeth i benderfynu pencampwr y gynghrair gyfan. Gelwir y gystadleuaeth hon y Playoffs. Mae yna gyfanswm o 12 tîm yn y Playoffs: 6 o'r NFC a 6 o'r AFC. Rhestrir y 6 tîm o bob adran yn ôl faint o gemau y ennillant yn y Tymor Arferol. Mae'r timau na lwyddant ennill eu hisadrannau (y Wild Cards) yn wastad yn cael eu dosbarthu'n bumed ac yn chweched ar y rhestr, hyd yn oed os oeddent yn well na thîm a enillodd isadran arall.

Y gemau "Wild Card" golygu

Yn rownd gyntaf y Playoffs (a elwir yn Benwythnos Wild Card, neu Wild Card Weekend) mae pedwar gêm. Mae'r ddau tîm gorau o'r AFC ac o'r NFC yn cael bei (bye) ac yn hepgor y rownd yma ac yn mynd yn syth i'r rownd nesaf.

  • mae tîm chweched-orau'r AFC yn chwarae tîm trydydd-orau'r AFC
  • mae tîm pumed-orau'r AFC yn chwarae tîm pedwerydd-orau'r AFC
  • mae tîm chweched-orau'r NFC yn chwarae tîm trydydd-orau'r NFC
  • mae tîm pumed-orau'r NFC yn chwarae tîm pedwerydd-orau'r NFC

Mae'r 4 enillydd yn ymuno â'r timau a gafodd bei ac yn symud i rownd nesaf y Playoffs, tra bod y 4 tîm a gollodd yn cael eu helimineiddio.

"Playoffs" Isadrannol golygu

Mae 4 gêm yn ail ran y Playoffs, a elwir y Playoffs Isadrannol (neu'r Divisional Playoffs). 

  • mae'r tîm y'i dosbarthir isaf o'r timau AFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae tîm gorau'r AFC
  • mae'r tîm arall o'r AFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae tîm ail-orau'r AFC
  • mae'r tîm y'i dosbarthir isaf o'r timau NFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae tîm gorau'r NFC
  • mae'r tîm arall o'r NFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae tîm ail-orau'r NFC

Mae enillwyr y gemau hyn yn symund ymlaen i rownd nesaf y Playoffs.

Pencampwriaethau Adrannol golygu

Mae 2 gêm yn drydydd ran y Playoffs, a elwir y Pencampwriaethau Adrannol (neu'r Conference Championships)

  • mae'r 2 tîm o'r AFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae yn erbyn ei gilydd. Yr enillydd yw Pencampwr yr AFC.
  • mae'r 2 tîm o'r NFC a enillodd yn y rownd ddiwethaf yn chwarae yn erbyn ei gilydd. Yr enillydd yw Pencampwr yr NFC.

Super Bowl golygu

Rhan olaf y Playoffs yw'r Super Bowl. Mae Pencampwr yr AFC yn chwarae yn erbyn Pencampwr yr NFC i benderfynu pwy fydd yn enillydd y Super Bowl ac felly yn bencampwr yr NFL am y tymor hwnnw.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu