Naunton Wayne

actor Cymreig

Roedd Naunton Wayne (22 Mehefin 190117 Tachwedd 1970), yn actor cymeriad Cymreig,

Naunton Wayne
Wayne yn The Lady Vanishes (1938)
Ganwyd22 Mehefin 1901 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
Tolworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Clifton Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganed fel Henry Wayne Davies (Newidiwyd ei enw trwy weithred gyfreithiol ym 1933) yn Llanwynno, Morgannwg. Roedd yn fab i William Thomas Davies, cyfreithiwr ac Anne Elizabeth (née Morgan) ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Clifton, Bryste. Ym 1927 priododd Hilda Gladys Dove, bu iddynt dau fab.[1]

Gyrfa golygu

Dechreuodd Wayne ei yrfa ym 1920 fel aelod o barti cyngerdd ar Ynys y Barri. Gwariodd deng mlynedd fel diddanwr mewn cwmnïau tebyg a llwyddodd i ddatblygu ffordd hawdd o ennill cydymdeimlad y gynulleidfa. Symudodd i Lundain lle fu'n perfformio fel arweinydd sioeau rifíw. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhalas Victoria yn 1928 fel diddanwr ac ymddangosodd hefyd yn y Palladium, y Coliseum, a'r Holborn Empire. Am bron i flwyddyn bu'n arweinydd sioeau ym Mhafiliwn Llundain.[2]

Roedd ei rolau actio cyntaf ar lwyfannau Llundain oedd yn Streamline yn y Palace Theatre y 1934 ac yn 1066 a All That [3] yn The Strand ym 1935 (lle rhoddodd ddilyniant comig i sgetshis gan y perfformwyr eraill). Ei rôl lawn gyntaf oedd yn Wise Tomorrow yn y Lyric ym 1937. Chwaraeodd Mortimer Brewster yn Arsenic ac Old Lace yn y Strand am bedair blynedd.

Daeth yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel y cymeriad cefnogol, Caldicott, yn y fersiwn ffilm o The Lady Vanishes ym 1938, rôl a ailadroddodd mewn tair ffilm arall, ochr yn ochr â Basil Radford fel ei gyfaill, Charters. Byddai'r ddau yn mynd ymlaen i ymddangos mewn ffilmiau eraill gyda'i gilydd, yn aml yn chwarae cymeriadau tebyg. Mae eu cyd gredydau eraill yn Night Train to Munich (1940), Crook's Tour (1941), Millions Like Us (1943), Dead of Night (1945), Quartet (1948), It's Not Cricket (1949), a Passport to Pimlico (1949).[4]

Ymddangosodd Wayne hefyd ar ei ben ei hun mewn ffilmiau eraill gan gynnwys y comedïau Ealing, The Titfield Thunderbolt (1953) ac Obsession (1949).

Marwolaeth golygu

Bu farw Wayne yn Surbiton, Surrey ar 17 Tachwedd 1970, yn 69 oed.[5]

Ffilmograffi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. yr archif Genedlaethol, Cofrestr 1939 Cyf: RG 101/1313H
  2. Hitchcock Zone The Times (18/Nov/1970) - Obituary: Naunton Wayne adalwyd 15 Tachwedd 2019
  3. "Naunton Wayne - Theatricalia". theatricalia.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-19. Cyrchwyd 2019-07-15.
  4. Silver Sirens Naunton Wayne adalwyd 15 Tachwedd 2019
  5. Deceased but not Forgotten Naunton Wayne Archifwyd 2019-07-15 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 15 Tachwedd 2019

Dolenni allanol golygu