Opera sebon boblogaidd o Awstralia a leolir ym maestrefi dinas Melbourne yng nghymuned Erinsborough ar Ramsay Street yw Neighbours ("Cymdogion"). Dechreuodd ar deledu Awstralia ym 1985 gan gael ei darlledu ar BBC One (yn y DU) am y tro cyntaf y flwyddyn wedyn.

Neighbours
Genre Opera sebon
Serennu Gweler Cast
Gwlad/gwladwriaeth Baner Awstralia Awstralia
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 25
Nifer penodau 5700 (erbyn y 29ain o Fai, 2009)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.22 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Seven Network (1985)
Network Ten (1986 - Presennol)
Rhediad cyntaf yn 18 Mawrth 1985
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Ym Mhrydain, symudwyd y rhaglen i Channel 5 yn 2008.

Aelodau cast o nod golygu

Mae nifer o actorion a chantorion wedi dechrau eu gyrfa ar Neighbours, neu ei ddefnyddio er mwyn ennill llwyddiant. Mae rhain yn cynnwys Alan Dale (Jim Robinson), Kylie Minogue (Charlene Robinson), Jason Donovan (Scott Robinson), Guy Pearce (Mike Young), Natalie Imbruglia (Beth Willis), Jesse Spencer (Billy Kennedy), Delta Goodrem (Nina Tucker), Stephanie McIntosh (Sky Mangel) a Natalie Bassingthwaighte (Isabelle Hoyland).

Ymddangosiadau gwestai gan enwogion golygu