Nellie Melba

canwr, canwr opera, hunangofiannydd (1861-1931)

Cantores opera soprano o Awstralia oedd y Fonesig Nellie Melba GBE (ganwyd Helen Porter Mitchell, 19 Mai 186123 Chwefror 1931). Daeth yn un o gantoresau enwocaf yn y byd tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Hi oedd y person cyntaf o Awstralia i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel cerddor clasurol. Cymerodd y ffugenw "Melba" o Melbourne, ei thref enedigol.

Nellie Melba
FfugenwNellie Melba Edit this on Wikidata
GanwydHelen Porter Mitchell Edit this on Wikidata
19 Mai 1861 Edit this on Wikidata
Melbourne, Richmond Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 1931 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Presbyteraidd y Merched, Melbourne
  • Westonbirt School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laislight soprano Edit this on Wikidata
TadDavid Mitchell Edit this on Wikidata
MamIsabella Ann Dow Edit this on Wikidata
PriodCharles Nesbitt Frederick Armstrong Edit this on Wikidata
PlantGeorge Nesbitt Armstrong Edit this on Wikidata
Gwobr/auBoneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Rol Anrhydeddus Fictorianaidd i Ferched Edit this on Wikidata
llofnod

Astudiodd Melba ganu yn Melbourne a gwneud llwyddiant cymedrol mewn perfformiadau yno. Ar ôl briodas fer ac aflwyddiannus, symudodd i Ewrop ym 1886 i chwilio am yrfa ganu. Astudiodd ym Mharis ac yn fuan daeth yn llwyddiannus yno ac ym Mrwsel. Ym 1888 enillodd enw fel y soprano ysgafn flaenllaw yn Llundain yn y Opera Brenhinol Eidalaidd, Covent Garden. Fe wnaeth ei debut yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd ym 1893.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cododd Melba symiau mawr o arian ar gyfer elusennau rhyfel. Dychwelodd i Awstralia yn aml yn ystod yr 20g, gan ganu mewn opera a chyngherddau a dysgu canu ym Melbourne Conservatorium. Parhaodd i ganu tan fisoedd olaf ei bywyd a gwneud llawer o ymddangosiadau "ffarwel". Roedd ei hangladd yn ddigwyddiad cenedlaethol pwysig.

Mae ei henw yn gysylltiedig â phedair bwyd, a grëwyd pob un ohonynt er anrhydedd iddi gan y cogydd Ffrengig Auguste Escoffier:

  • pwdin Melba - pwdin o eirin gwlanog, saws mafon ac hufen iâ fanila
  • saws Melba - saws melys o fafon a cyrains cochion
  • tost Melba - tost tenau crinsych
  • garniture Melba - tomatos llenwi â chyw iâr, cloron a madarch, gyda saws velouté
Eginyn erthygl sydd uchod am ganwr neu gantores. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner AwstraliaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.